Cafodd digwyddiad ei gynnal dros y penwythnos i godi ymwybyddiaeth o’r Guérnesiais, sef iaith frodorol ynys Guernsey.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu er mwyn tynnu sylw at waith Comisiwn Iaith Guernsey, gydag ymwelwyr yn cael eu hannog i siarad neu ddarllen pwt o’r iaith.

Yn ôl y Comisiwn, mae’r iaith yn “ddolen gyswllt” i orffennol yr ynys ac yn “bont i’r dyfodol”, ond mae’r iaith “wedi’i chymryd yn ganiataol”.

Hanes yr iaith

Guernésiais yw iaith frodorol ynys Guernsey, un o ynysoedd y Sianel, ac mae hefyd yn cael ei hadnabod wrth yr enwau Ffrangeg Guernsey neu patois.

Mae hi’n amrywiad ar Ffrangeg Normanaidd, un o dafodieithoedd yr iaith Ffrangeg cyn iddi gael ei chysoni.

Ar ôl y Goncwest Normanaidd yn Lloegr yn 1066, daeth Ffrangeg Normanaidd yn iaith swyddogol.

Ond Normanaidd oedd iaith trigolion Guernsey o hyd, ac fe ddaeth yn iaith yn ei hawl ei hun o fewn dim o dro, gan fabwysiadu tafodiaith, geiriau ac ynganiadau unigryw, ac mae’r iaith bellach yn amrywio o un rhan o’r ynys i’r llall.

Roedd pobol yn ei siarad yn hyderus tan ganol yr ugeinfed ganrif, pan ddaeth Saesneg yn iaith gyffredin ar draws yr ynys, a bellach roedd hi ar ei chryfaf mewn ardaloedd gwledig.

Cafodd yr Ail Ryfel Byd effaith sylweddol ar ddyfodol yr iaith hefyd, gyda nifer fawr o blant wedi’u hanfon yn faciwîs i Loegr, gan anghofio maes o law sut i siarad eu hiaith eu hunain.

Mae datblygiad y cyfryngau byd-eang hefyd wedi cael cryn effaith ar yr iaith erbyn hyn.

Iaith lafar yw hi ar y cyfan erbyn heddiw, ac mae trafodaethau brwd o hyd ynghylch sut y dylid ei hysgrifennu.

Cafodd geiriadur cynta’r iaith ei lunio yn 1870 gan Georges Métivier, wrth iddo fe a chriw o ymgyrchwyr geisio achub yr iaith.

Erbyn 2001, dim ond 1,327 (2% o boblogaeth yr ynys) oedd yn medru’r iaith yn rhugl, tra bod 3% yn ei deall hi.

Ond roedd 70% o siaradwyr rhugl dros 64 oed, gyda dim ond 0.1% o bobol ifanc yn rhugl.

Mae’r iaith bellach dan fygythiad, yn ôl adroddiad gan Gomisiwn Iaith Guernsey yn 2016.