Mae Jeremy Miles wedi cyhoeddi addewid i helpu bechgyn dosbarth gweithiol i wireddu eu potensial ym myd addysg, gan ddweud bod cydraddoldeb wrth wraidd addysg.
Er mwyn gwireddu hyn, mae Ysgrifennydd Addysg Cymru’n dweud na fydd yn ymddiheuro am ei ddisgwyliadau uchel ac felly y byddai ei lywodraeth yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi mewn ysgolion.
Yn ei swydd bresennol, mae eisoes wedi cefnogi ysgolion sy’n helpu rhieni a gofalwyr i goginio prydau bwyd rhad i’w plant, deall arian yn well a sicrhau mwy o ddiogelwch ar y we drwy raglenni cymunedol mewn ysgolion.
Ond mae’n dweud bod angen gwneud mwy i sicrhau bod bechgyn yn llwyddo i’r un graddau â merched yn eu haddysg, a bod angen “dulliau ffres wedi’u teilwra” er mwyn gwireddu hynny.
Sut mae gwireddu’r uchelgais?
Er mwyn cyrraedd y nod, dywed Jeremy Miles y byddai’n:
- rhoi mwy o flaenoriaeth i’r Blynyddoedd Cynnar, gan sicrhau mynediad i bob plentyn i ofal a chefnogaeth ar y cyd â rhieni
- codi safonau drwy leihau llwyth gwaith athrawon a chynorthwywyr drwy roi cefnogaeth iddyn nhw
- codi safonau llythrennedd a rhifedd er mwyn i blant fanteisio ar y Cwricwlwm newydd a chyfleoedd eraill yn eu bywydau
- gwella’r cysylltiad rhwng ysgolion, colegau a chyflogwyr, gan sicrhau profiad gwaith o safon er mwyn deall pa swyddi sydd ar gael yn yr economi a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swyddi hynny
- adeiladu ar yr ymrwymiad o ran addysg bellach, diwygio cymwysterau galwedigaethol drwy gynnig mwy o lwybrau posib, cynllun galwedigaethol newydd ac asesiad cenedlaethol o sgiliau’r dyfodol i gyd-fynd â pholisi economaidd
- ymestyn prentisiaethau a blaenoriaethu hyn wrth i adnoddau ddod ar gael.
Diffyg cydraddoldeb
“Ces i fy magu mewn teulu dosbarth gweithiol yn ystod y 1970au a’r 1980au, pan oedd amserau’n eithriadol o anodd i nifer o bobol,” meddai Jeremy Miles.
“Cafodd Streic y Glowyr yn 1984 effaith ddwys ar fy ffrindiau ysgol oedd yn feibion ac yn ferched i lowyr oedd yn streicio.
“Mae’r tlodi a diffyg cydraddoldeb welais i â’m llygaid fy hun wedi gadael craith ddofn arna i, ac wedi siapio’r credoau gwleidyddol sydd gen i heddiw.
“Dw i’n teimlo’n gryf fod capasiti pob plentyn i ddyheu yn gyfartal.
“Addysg dda yw’r ased fwyaf gwerthfawr y gallwn ni ei rhoi i unrhyw un yn y byd sydd ohoni heddiw.
“Buddsoddi mewn addysg yw’r polisi economaidd gorau, a’r polisi cyfiawnder cymdeithasol gorau hefyd.
“A dyna pam fod cynyddu’r arian wnaethon ni ei ddarparu i ysgolion yn un o’m prif flaenoriaethau.
“Drwy wneud hynny, byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i roi’r dechrau gorau i bob plentyn mewn bywyd, waeth beth yw eu cefndir – oherwydd mai dyna’r peth iawn i’w wneud, a’r buddsoddiad gorau yn ein dyfodol fel cenedl.
“Dw i’n benderfynol, yn enwedig, y bydd Llywodraeth Cymru dw i’n ei harwain yn gwneud mwy i gefnogi bechgyn dosbarth gweithiol i ffynnu ac i wireddu eu potensial.
“Peth o hynny yw cael cwricwlwm sy’n eu gwneud nhw’n frwdfrydig i ddysgu a bod ganddyn nhw fodelau rôl i’w hysbrydoli nhw.
“Mae hefyd yn fater o fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad a’r gefnogaeth sydd gan ddysgwyr gartref.
“Dw i eisiau codi dyheadau, a sicrhau bod ein darparwyr blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau, cyflogwyr a’r gymdeithas yn ehangach yn chwarae rhan lawn wrth roi pob cyfle iddyn nhw lwyddo.”