Mae Plaid y Bobol yn barod i ystyried rhoi pardwn amodol i gyn-arweinydd Catalwnia am ei ran yn yr ymgyrch dros annibyniaeth.
Mae Carles Puigdemont yn un o nifer sylweddol o arweinwyr yr ymgyrch annibyniaeth sydd wedi wynebu cyhuddiadau troseddol.
Fe fu Plaid y Bobol a’r arweinydd Alberto Núñez Feijóo yn feirniadol iawn o’r Bil Amnest hyd yn hyn, ond mae lle i gredu eu bod nhw’n fodlon cyfaddawdu a derbyn amodau’r Bil Amnest – sef pardwn i arweinwyr yr ymgyrch – yn amodol ar ddau beth.
Yn y lle cyntaf, byddai’n rhaid i Carles Puigdemont ac eraill ddangos edifeirwch am refferendwm “anghyfansoddiadol” 2017, ac addo peidio gweithredu eto.
Mae Plaid y Bobol yn dweud eu bod nhw wedi bod yn ystyried rhoi pardwn i Puigdemont ers etholiadau mis Gorffennaf, ar ôl iddyn nhw ennill yr etholiad heb fwyafrif.
Maen nhw’n dweud iddyn nhw drafod y mater â phlaid Junts per Catalunya, un o’r pleidiau sy’n cefnogi annibyniaeth, ond eu bod nhw wedi cefnu ar y syniad gan y byddai’n anghyfansoddiadol.
Ddiwrnod yn ddiweddarach, dywedodd Feijóo ei fod yn gwrthwynebu annibyniaeth ac yn parhau i wrthod y Bil Amnest.
Gallai Plaid y Bobol golli’n sylweddol yn etholiadau Galicia yr wythnos nesaf, lle gallen nhw golli’r mwyafrif sydd ganddyn nhw yno, ac mae rhybudd eu bod nhw’n wynebu dyfodol “tymhestlog”.