Mae’r Express yn cwyno bod Carmen Smith, y Gymraes 27 oed sydd wedi’i henwebu gan Blaid Cymru, wedi cael sedd oes yn Nhŷ’r Arglwyddi ar draul ffigwr blaenllaw fel Nigel Farage.

Yn ôl erthygl gan David Maddox, y golygydd gwleidyddol, Nigel Farage yw’r “gwleidydd pwysicaf a mwyaf dylanwadol ers Margaret Thatcher, ac eithrio Tony Blair efallai”.

Maen nhw’n dweud ei fod e wedi ennill dau etholiad cenedlaethol, wedi gorfodi refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, yn ogystal â “chodi cywilydd ar y banciau ac wedi rhoi mewnfudo anghyfreithlon wrth galon y ddadl wleidyddol”.

Maen nhw hefyd yn honni i’r gwleidydd, sydd wedi arwain Ukip ac wedi sefydlu Plaid Brexit, helpu Donald Trump i ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

“Dydy enw Farage byth ar y rhestr” am anrhydeddau, meddai’r erthygl.

‘Plaid wleidyddol fach iawn’

Mae’r erthygl yn mynd yn ei blaen i adrodd hanes Carmen Smith, sy’n cynrychioli “plaid wleidyddol fach iawn” ac sydd “erioed wedi ennill etholiad yn ei bywyd”.

Maen nhw’n dweud bod rhoi sedd iddi “o unman… yn dweud popeth wrthym sydd o’i le â Thŷ’r Arglwyddi”.

Yn 27 oed, hi fydd yr aelod ieuengaf erioed, gan guro Charlotte Owen, oedd yn 30 pan gafodd hi sedd yn y siambr uchaf yn San Steffan gan Boris Johnson, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

“Wnaeth y Farwnes Owen yn cyrraedd â chyn lleied o brofiad ddim creu argraff ar bobol yn swigen San Steffan neu’r tu allan o gwbl, ac mae’r Farwnes Smith o Fangor (neu lle bynnag) wedi ennyn ymateb tebyg,” medd yr erthygl.

Er bod penodi rhai mor ifanc yn beth “braf” yn rhywle “sy’n edrych yn fwy fel cartrefi ymddeoliad i’r rhai oedrannus iawn”, mae’n dweud bod Carmen Smith a Charlotte Owen “yn cael eu hystyried yn rhan o’r broblem” yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Daw penodiad Carmen Smith yn dilyn penderfyniad Dafydd Wigley i ymddeol, a’i argymhelliad y dylai Plaid Cymru gadw un sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

‘Swydd am oes’

Bydd Carmen Smith yn cael aros yn Nhŷ’r Arglwyddi am weddill ei hoes pe bai hi’n dymuno gwneud hynny.

Mae adroddiadau y bydd hi’n derbyn £1.5m pe bai hi’n ymddeol yn 64 oed, ac mae’r erthygl yn cyfeirio at sylwadau’r Ceidwadwyr Cymreig fod rhoi sedd i Carmen Smith yn golygu bod Plaid Cymru’n “rhagrithiol”.

Ond mae’r erthygl hefyd yn honni bod Carmen Smith wedi colli’r bleidlais, ac mai Elfyn Llwyd ddylai fod wedi’i benodi i Dŷ’r Arglwyddi, ond fod Plaid Cymru’n dymuno gweld dynes yn cael y sedd.

Yn ôl yr Express, mae’r sefyllfa’n gadael “blas cas”.

‘Dw i ddim yn cytuno â Thŷ’r Arglwyddi’

Yn y cyfamser, mae Carmen Smith yn dweud nad yw hi’n cytuno â Thŷ’r Arglwyddi fel ag y mae ar hyn o bryd, ac mai annibyniaeth yw ei nod yn y pen draw.

“Dw i ddim yn cytuno â Thŷ’r Arglwyddi fel y sefydliad ydy o ar hyn o bryd,” meddai wrth BBC Cymru.

“Yn y pen draw, dw i’n credu mewn annibyniaeth, ac yn ystod fy mywyd dw i’n credu y bydd gennym ni Gymru annibynnol.”

Dywed ei bod hi’n cytuno â’r egwyddor fod angen cynrychiolaeth ar Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Tra bo’r siambr honno yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bobol sy’n byw yng Nghymru, mae angen lleisiau Cymreig arnom ni yn y siambr honno,” meddai.

“Yr oedran cyfartalog yn Nhŷ’r Arglwyddi yw 71, a dynion yw’r rhan fwyaf.”

Mae Carmen Smith hefyd wedi amddiffyn ei phenodiad a hithau mor ifanc.

“Dw i’n gwybod y gallai llawer o bobol gwestiynu fy mod i’n eithaf ifanc yn mynd i mewn i’r siambr, ond ydyn ni’n hapus gyda’r status quo?

“Dw i’n credu y galla i gynnig persbectif gwahanol o ran fy mhrofiadau personol fy hun, a minnau wedi tyfu i fyny’n ofalwr ifanc ar Ynys Môn, a hefyd y gwahanol fathau o rolau dw i wedi’u chwarae wrth ymgyrchu dros addysg, datblygiad rhyngwladol a materion amgylcheddol.”

Y tu mewn i siambr Ty'r Arglwyddi

Beirniadu enwebu rhagor o bobol ar gyfer sedd oes yn Nhŷ’r Arglwyddi

Yn eu plith mae Carmen Smith, 27, yr aelod ieuengaf erioed gafodd ei henwebu gan Blaid Cymru

Dylai gwleidyddion Plaid Cymru wrando ar Dafydd Wigley

Huw Prys Jones

Rywsut neu’i gilydd, bydd yn rhaid i Blaid Cymru ddod allan o’r twll mae hi wedi rhoi ei hun ynddo wrth gytuno i restrau caeëdig ar gyfer y Senedd