Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi beirniadu’r enwebiadau diweddaraf ar gyfer sedd oes yn Nhŷ’r Arglwyddi, sy’n cynnwys Carmen Smith, gafodd ei henwebu gan Blaid Cymru’n 27 oed.

Mae hi dair blynedd yn iau na Charlotte Owen, cyn-ymgynghorydd Boris Johnson, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Carmen Smith oedd unig enwebiad Plaid Cymru, a bydd hi’n ymuno â’r Arglwydd Dafydd Wigley yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac mae gan Blaid Cymru dri aelod seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin hefyd.

Er eu bod nhw’n gwrthwynebu’r haen uchaf yn San Steffan, mae Plaid Cymru’n dadlau bod rhaid cael cynrychiolaeth lle bynnag y caiff Cymru ei thrafod.

Beirniadaeth

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi beirniadu “stwffio” rhagor o aelodau i Dŷ’r Arglwyddi ar gyfer “swyddi-am-oes”, a’r rheiny ar y cyfan yn rhoddwyr a chefnogwyr y Ceidwadwyr.

Tŷ’r Arglwyddi, sydd â mwy nag 800 o aelodau, yw’r ail ddeddfwrfa fwyaf yn y byd ar ôl Cyngres y Bobol yn Tsieina.

Maen nhw’n dweud y gallai’r sefyllfa “erydu” ffydd y cyhoedd yn y system wleidyddol.

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn dweud mai “diffyg ymatalgarwch” sy’n gyfrifol am y sefyllfa ar hyn o bryd, ac nad yw Tŷ’r Arglwyddi bellach yn “gynaliadwy” o ganlyniad i ormod o aelodau anetholedig.

“Mae angen diwygio’r Arglwyddi ar frys, a’u disodli gan siambr etholedig lai, â nifer penodol o aelodau, lle mai pobol y wlad hon ac nid prif weinidogion sy’n penderfynu pwy sydd yn eistedd yn y senedd yn gwneud y deddfau rydym oll yn byw oddi tanyn nhw,” meddai llefarydd.