Wrth ysgrifennu gwerslyfr ar gyfer ei fyfyrwyr, sylweddolodd Dmitri Ivanovich Mendeleyev (1834-1907) fod yn rhaid ffurfio patrwm i alluogi’r myfyrwyr rheini i ddeall yn iawn y berthynas rhwng y gwahanol elfennau a’i gilydd. Gan osod pob un o elfennau ei gyfnod – 63 ohonyn nhw – ar gerdyn unigol, bu Mendeleyev, mae’n debyg, yn trefnu ac aildrefnu’r elfennau yn nhrefn esgynnol eu pwysau atomig, ac yna’n grwpiau ymddygiad tebyg. Canlyniad y cyfan oedd y Tabl Cyfnodol, 1869.
Gorchest cemeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y tabl hwn. Mae pob fersiwn fwy diweddar ohono yn seiliedig ar dabl Mendeleyev. Mae’r Tabl Cyfnodol yn gwbl allweddol i’n dealltwriaeth ni ohonom ni’n hunain a’r byd o’n cwmpas.
Ewropiwm
Gwelir yr elfennau Lanthanoid, fel arfer, ynghrog o dan weddill y Tabl. Ymhlith yr elfennau rheini mae un o’r enw ‘Ewropiwm’.
Ar un ochr o bapur €5 mae sêr melyn. Pe bai chi’n gosod yr arian dan olau uwchfioled, buasai’r sêr melyn rheini’n troi’n goch eu lliw. Wrth droi’r papur €5 drosodd, mae modd gweld pont Rufeinig tridarn. Eto, o dan olau uwchfioled, mae modd gweld gwawl gwyrdd ac indigo o gwmpas y bont. Wrth argraffu’r arian, caiff inciau arbennig eu defnyddio ac ynddyn nhw gemegolion, neu gymysgedd cyfrinachol o gemegolion, sydd yn deffro o dan olau uwchfioled.
Dim ond ryw bobol ddethol ym manciau Ewrop sydd yn gwybod yn union pa inciau gaiff eu defnyddio wrth argraffu’r €5. Ond yn 2002, ychydig fisoedd ar ôl sefydlu’r Ewro, bu dau gemegydd o Brifysgol Utrecht yn ceisio darganfod pa elfennau’n union gafodd eu defnyddio i greu’r inciau arbennig hyn.
Daeth i’r amlwg o’u hymchwil fod y sêr melyn ar y papur €5 yn troi’n goch o dan olau uwchfioled oherwydd… ‘Ewropiwm’. Ymhlyg yn yr Ewro mae’r elfen gafodd ei henwi, wedi ei darganfod, yn ‘Ewropiwm’. Boed yn benderfyniad gwleidyddol bwriadol neu’n ddamwain pur, mae’n arwyddocaol fod yr elfen ‘Ewropiwm’ yn rhan annatod o arian cyfredol yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd ‘Ewropiwm’ ei darganfod gan Eugene-Anatole Demarçay (1852-1903) yn 1902. Metel ydyw, yn feddal fel plwm. Perthyn iddo’r tueddiad anffodus i fflamio a ffrwydro wrth ddod i gyswllt ag aer. O’r herwydd, caiff ‘Ewropiwm’ ei gadw wedi’i soddi mewn olew. Ar adeg ei ddarganfod, y tueddiad gan wyddonwyr oedd enwi elfennau newydd ar ôl gwledydd unigol. Yn 1875, cafodd Galiwm ei darganfod a’i henwi, wrth gwrs, ar ôl Ffrainc. Cafodd Germaniwm ei darganfod yn 1886; Poloniwm – ar ôl gwlad Pwyl – yn 1898. Aeth Demarçay yn groes i arfer ei gyfnod. Amlygodd ei argyhoeddiad Ewropeaidd, gan ddewis enwi’r elfen ffrwydrol newydd hon yn ‘Ewropiwm’. Buasai Demarçay yn hapus ddigon, mae’n siŵr gen i, o wybod fod ‘Ewropiwm’ bellach yn rhan annatod o system ariannol Ewrop.
Mae ‘Ewropiwm’ yn y papur €5. Does dim modd gweld yr ‘Ewropiwm’, ond hebddi, dim ond darn o bapur lliwgar yw’r €5. Heb y papur, pa werth sydd i’r ‘Ewropiwm’? Yr ateb yn syml: dim. Ofer yr ‘Ewropiwm’ heb y papur. Di-werth y papur heb yr ‘Ewropiwm’. Mae cydberthynas rhwng yr €5 a’r ‘Ewropiwm’. Mae’r naill a’r llall ymhlyg yn ei gilydd, mewn undeb diwahân.
Cydberthynas
Cydberthynas: y peth mawr yw sylweddoli ein cydberthynas â’n gilydd: cydberthynas pobol, hiliau, crefyddau, diwylliannau, cenedlaethau, eglwysi â’i gilydd. ‘Un dyn, nid yw’n ddyn o gwbl’, meddai’r hen ddihareb Ladin. Tynnwch berson allan o’i gysylltiadau, o’i berthynas â phobol eraill, ac nid person sydd gennych wedyn, ond cysgod o berson – cartŵn o berson.
“Cydberthynas: Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yw yr ydwyf yn eu canol hwynt.”
(Mathew 18:20 WM)
Dau yw’r isafswm, yn yr adnod fawr hon, nid un.
Cydberthynas cenhedloedd â’i gilydd; credaf mai sail gwareiddiad yw ymwybyddiaeth o’r gydberthynas hon. Cenhedloedd yn cyd-ymuno â’i gilydd er lles ei gilydd. Mae gwareiddiad mewn perygl pan fydd cenedl yn ceisio’i lles ei hun ar draul y gydberthynas. Caiff cenedl ei dyrchafu yn yr ymdrech i gyd-ddyrchafu cenhedloedd eraill.
“Exit, pursued by a bear…”
(Act III: 3; The Winter’s Tale)
Dyma un o gyfarwyddiadau llwyfan mwyaf enigmatig William Shakespeare (1564-1616). Wedi’r ‘Exit’ ddiwedd Ionawr 2020, wela i ddim ond y llanast ddaeth wrth i eirth gwaethaf ein profiad erlid ar ein hôl – unigolyddiaeth, balchder ac annibyniaeth beryglus. Mawr obeithiaf nad yw ein dyfodol ymhlyg yn epigram Waldo Williams (1904-1971):
Na fentrer i bellter byd
A chael nad oes dychwelyd.