Nid ar chwarae bach y bydd Dafydd Wigley yn dweud pethau sy’n mynd yn groes i bolisi swyddogol ei blaid. Gallwn fod yn sicr, felly, fod sail gadarn iawn i’w rybudd am beryglon system etholiadol newydd ar gyfer y Senedd sy’n cael ei derbyn a’i harddel gan Blaid Cymru.
Mae’n wir fod Mesur Diwygio’r Senedd, sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd, yn cynnwys rhai pethau da fyddai’n gamau sylweddol ymlaen. Mater o synnwyr cyffredin ydi bod eisiau cynyddu nifer yr aelodau er mwyn i’r Senedd weithio’n well. A sarhau’n deallusrwydd mae unrhyw Dori â’r dadleuon plentynnaidd a simplistig arferol y byddai’n well cyflogi mwy o feddygon yn lle hynny (er bod, yn anffodus, ormod o lawer o bobol sy’n barod i gredu lol o’r fath).
Ar y llaw arall, mae’r drefn etholiadol sy’n ei hargymell ar gyfer y 96 o aelodau i’r Senedd ar ei newydd wedd yn gwbl annerbyniol. Mor annerbyniol, yn wir, nes ei bod yn dad-wneud unrhyw fanteision a allai ddeillio o gael mwy o aelodau.
O dan y drefn newydd, byddai Cymru wedi ei rhannu’n 16 o ranbarthau etholiadol, gyda phob un yn ethol chwe aelod.
Byddai’n rhesymol disgwyl o dan drefn o’r fath fod gan etholwyr chwe phleidlais i ddewis yr aelodau hynny. Yn lle hynny, un bleidlais yn unig y byddwn ni’n ei chael, a honno i blaid yn unig ac nid i ymgeisydd. Y blaid fydd yn cael dewis yr ymgeiswyr mewn trefn a’r seddau wedyn yn cael eu dosbarthu mewn ffordd debyg i’r hyn sy’n ddigwydd gydag aelodau rhestr ar hyn o bryd.
Mae diffygion hyn yn gwbl amlwg, wrth amddifadu’r etholwyr yn ddifrifol o ddewis ystyrlon. Does gan y mwyafrif llethol o bobol ddim teyrngarwch dall i unrhyw blaid benodol, ac mae’n ddigon posibl y bydden nhw’n dewis pleidleisio dros ymgeiswyr o wahanol bleidiau. Byddai hefyd yn mygu annibyniaeth barn ymysg gwleidyddion, gan y byddai’r drefn yn tueddu i ffafrio’r rhai mwyaf uniongred, ufudd a diddychymyg.
Canlyniad anochel hyn i gyd fyddai ymddieithrio’r cyhoedd ymhellach oddi wrth y broses wleidyddol. Ar adeg pan fo pwerau Senedd Cymru eisoes yn cael eu tanseilio, mae hyd yn oed ystyried cynllun o’r fath yn gwbl anghyfrifol.
Cam gwag
Mae’n ymddangos bod gwleidyddion Plaid Cymru’n sylweddoli fwyfwy iddyn nhw gymryd cam gwag wrth gytuno i’r drefn etholiadol sy’n cael ei hargymell. Eu dadl nhw ydi mai dyma’r unig beth y byddai’r Blaid Lafur wedi’i dderbyn, a bod rhywfaint o gyfaddawdu yn anochel.
Gallwn dderbyn nad dewis Plaid Cymru oedd y rhestrau caeëdig, a chydnabod eu bod nhw’n gyson wedi dadlau dros systemau mwy democrataidd. Mae’n weddol amlwg hefyd mai o’r Blaid Lafur y daeth y pwysau. Ar y llaw arall, ni all Plaid Cymru olchi eu dwylo o’r penderfyniad chwaith. Bydd angen uwch-fwyafrif o ddau draean i’r Bil gael ei basio, a heb gefnogaeth Plaid Cymru byddai hynny’n amhosibl.
Eu camgymeriad ar y cychwyn oedd meddwl bod eu cyfaddawd yn bris oedd yn werth ei dalu – pan fo’n dod yn fwyfwy amheus fod hyn yn wir. Po fwyaf o graffu sy’n cael ei wneud ar y bil, mwyaf y daw ei ddiffygion i’r amlwg.
Mae’n fwyfwy arwyddocaol mai’r feirniadaeth o’r drefn sy’n cael ei chynnig, gyda sylwebwyr ac arbenigwyr gwleidyddion yn agos at fod yn unfarn yn ei herbyn.
Esgusodion
Ar yr un pryd, rydym yn clywed gormod o lawer o esgusodion drosti hefyd. Ac yn anffodus, nid yw’r holl esgusodion hyn, gan Lafur na Phlaid Cymru, wedi bod yn gwbl onest chwaith. Wrth sylweddoli amhoblogrwydd y diffyg dewis i etholwyr, mae sawl un wedi bod yn dadlau y bydd modd newid y drefn bleidleisio yn nhymor nesaf y Senedd.
Er y gallai fod yn wir mewn theori, prin fod y ddadl hon yn gredadwy o gwbl. Pwy yn ei iawn bwyll all gredu y byddai senedd lawn o aelodau gafodd eu hethol drwy restrau caeëdig yn dewis chwalu’r drefn a’u rhoddodd yno? Mi fyddai’n hynod o anodd ei newid am amser maith.
A ph’run bynnag, os ydi rhywun yn derbyn y gallai fod angen newid, onid y peth synhwyrol ydi sicrhau trefn mor dderbyniol ag sy’n bosibl yn y lle cyntaf? Beth fyddai’r pwynt mewn gohirio rhywbeth y byddai’n llawer haws ei wneud ar hyn o bryd?
Mae Plaid Cymru a Llafur hefyd wedi bod yn llawn addewidion am senedd ‘gyfartal’ efo niferoedd tebyg o ddynion a merched ynddi – gan wybod yn iawn na fyddai cynllun o’r fath yn ymarferol na’n debygol o gael ei weithredu. Y bwriad gwreiddiol oedd ei gwneud hi’n orfodol i bob plaid drefnu rhestrau eu hymgeiswyr yn y fath fodd fel y byddai’r un nifer o ddynion a merched yn cael eu hethol. Ers y llynedd, mae’r elfen hon wedi cael ei gwahanu o’r prif Fil ac mae’n ymddangos ei bod wedi diflannu yn rhywle yng nghrombil y Senedd ar y funud.
Dylai fod yn amlwg na ddaw dim byd o’r cynigion penodol hyn. I ddechrau, mae’n ymddangos fod elfennau ynddyn nhw sydd y tu hwnt i gymhwysedd Senedd Cymru. Mae’n edrych hefyd eu bod mewn dyfroedd dyfnion oherwydd y bydden nhw’n codi cwestiynau dadleuol ynghylch pwy ddylai gael eu cydnabod fel merched neu beidio. Yn fwy na dim, byddai unrhyw fesurau i orfodi pleidiau i ddweud pwy maen nhw’n eu dewis fel ymgeiswyr yn gwbl annerbyniol. Byddai’n mynd yn groes i holl hanfod yr egwyddor sylfaenol o etholiadau rhydd a theg.
Temtasiwn
Mae rhywun yn deall y demtasiwn i Blaid Cymru wrth gefnogi’r bil diwygio presennol. Byddai’n debygol o arwain at ddyblu nifer eu haelodau yn y Senedd heb orfod gwneud fawr o gynnydd etholiadol. Byddai hyn yn ei dro’n golygu mwy o adnoddau nag a gafodd erioed o’r blaen yn ei hanes.
Yr hyn sy’n rhaid iddyn nhw ei sylweddoli, er hynny, ydi’r angen i gydbwyso’r manteision hyn yn erbyn yr anfri y gall trefn bleidleisio mor amhersonol ei ddwyn ar Senedd ac ar ddemocratiaeth Cymru.
Mae unrhyw ragolygon am Gymru fwy annibynnol am ddibynnu ar gael nifer cynyddol o etholwyr i uniaethu eu hunain fwyfwy â Senedd a Llywodraeth Cymru yn hytrach na San Steffan. Byddai unrhyw beth all ymddieithrio’r cyhoedd o’u cynrychiolwyr etholedig yn tanseilio unrhyw obaith o hyn.
Er cymaint yr angen am fwy o aelodau i’r Senedd, ni ddylai hyn fod uwchlaw unrhyw ystyriaethau eraill. Os na all Plaid Cymru gael consesiynau sylweddol ynghylch y drefn bleidleisio, dylai ystyried o ddifrif atal ei chefnogaeth i’r cynigion os bydd raid. Naïfrwydd anfaddeuol fyddai unrhyw fethiant i weld peryglon y cynllun fel y mae.
Fel Llywydd Anrhydeddus, mae Dafydd Wigley wedi dangos arweiniad clir i wleidyddion Plaid Cymru. Mae hefyd wedi ei gwneud yn haws iddyn nhw wneud newid cyfeiriad a dal eu pennau’n uchel yr un pryd trwy roi cyfle iddyn nhw ddilyn ei gyngor doeth a phrofiadol.
Y ffaith amdani ydi bod Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd mewn sefyllfa bur rymus i wneud safiad. Gan fod angen mwyafrif o ddau draean ar y Bil, ni fyddai dim ond angen i ddau neu dri o’u haelodau o’r Senedd fygwth pleidleisio yn ei erbyn i orfodi eu cyd-aelodau i ymateb.
Fel arweinydd lled-newydd, byddai’n gyfle hefyd i Rhun ap Iorwerth osod ei stamp ei hun drwy fynnu taro bargen galetach â Llywodraeth Cymru ar y mater hollbwysig hwn.
Yr her i wleidyddion Plaid Cymru ydi cydnabod eu camgymeriad a sylweddoli y byddai’n llawer gwell gwneud tro pedol na dal i gloddio’n ddyfnach i’r twll maen nhw ynddo ar hyn o bryd. Mae’n hanfodol eu bod nhw’n dangos mwy o annibyniaeth barn dros yr wythnosau nesaf. Ni fydd gobaith ennill mwy o rym i Senedd Cymru os na allwn sicrhau trefn bleidleisio dderbyniol ar ei chyfer.