Mae cyfarfod brys wedi ei drefnu rhwng Llywodraeth Cymru ag undebau amaeth yn sgil y gwrthwynebiad i’r newidiadau i gyllidebau ffermwyr.

Daw wedi i dros 3,000 o ffermwyr fynychu cyfarfod ym mart Caerfyrddin nos Iau (Chwefror 8).

Maen nhw’n pryderu am yr effaith fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sydd yn y broses ymgynghori, yn ei chael ar y diwydiant amaeth wedi i adroddiad diweddar darganfod bod posib y byddai’n arwain at golli 5,500 o swyddi yn y diwydiant.

“Fe wnaethon ni gwrdd â’r Gweinidog ddydd Mawrth i fynegi pryderon dwfn y diwydiant ac fe wnaethom ni’n glir iddi am gryfder teimladau a difrifoldeb y sefyllfa yn dilyn adborth a gawsom mewn cyfres o gyfarfodydd,” meddai Aled Jones, Llywydd NFU Cymru.

“Croesawaf y ffaith bod y Gweinidog yn cydnabod pryderon difrifol ffermwyr ac felly wedi cytuno i gyfarfod ac edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion hyn.

“Ar ôl teithio ar hyd a lled Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf a chyfarfod â miloedd o aelodau, mae’n amlwg bod yr ymgynghoriad presennol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r cynigion a nodir ynddo yn achosi ymdeimlad dwfn o gyfyngder a phryder.”

Annog mynegi teimladau

Dywed Aled Jones fod Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, yn parhau i nodi mai ymgynghoriad yn unig yw’r cynlluniau presennol.

Mae hi’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffermio i roi gwybod “am gryfder y teimladau sy’n bodoli ymhlith y gymuned ffermio”.

Mae’r ymgynghoriad presennol yn cynnig y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn dod i ben yn llwyr yn 2029.

Mae undebau yn pryderu am nad oes unrhyw daliad sefydlogrwydd hirdymor yn ei le o fewn y cynllun.

“Mae mewnbynnau amaethyddol dros draean yn uwch na’r cyfnod cyn-covid, mae rheoliadau ansawdd dŵr wedi ychwanegu baich rheoleiddiol a chost enfawr ar fusnesau ffermio ac mae TB mewn gwartheg yn parhau i achosi torcalon i deuluoedd ffermio,” medd NFU Cymru.

“Bydd NFU Cymru yn mynd â phryderon y diwydiant yn uniongyrchol at y Gweinidog yn ein cyfarfod, a byddwn yn nodi ein prif ofynion yn glir.”

Mae Llywodraeth Cymru’n mynnu y bydd eu cynlluniau’n sicrhau systemau cynhyrchu bwyd diogel, yn gwarchod yr amgylchedd ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.