Bydd y cyn-Aelod Seneddol ac ymgyrchydd Siân James yn ailymweld â’r lleoliadau pwysig iddi yn ymgyrch streic y glowyr – lleoliadau gafodd eu defnyddio yn y ffilm Pride sy’n trafod yr hanes.

Ym mhennod ola’r gyfres Taith Bywyd ar S4C, fe fydd Siân James yn mynd ar daith i gwrdd â’r bobol newidiodd ei bywyd ac a ddylanwadodd ar ei gyrfa.

Bydd y rhaglen, sy’n cael ei chyflwyno gan Owain Williams, i’w gweld ar S4C am 9 o’r gloch nos Sul (Chwefror 11).

Ar ei thaith, bydd hi’n ailymweld â’r Electric Ballroom yn Llundain, sef lleoliad digwyddiad ‘Pits and Perverts’ gafodd ei drefnu gan y mudiad Lesbians and Gays Support the Miners i gefnogi’r teuluoedd gafodd eu heffeithio gan y Streic, ym mis Rhagfyr 1984.

Yma, bydd hi’n cyfarfod â Jonathan Blake, un o aelodau gwreiddiol yr LGSM oedd yn rhan ganolog o sefydlu’r berthynas arbennig yma rhwng y glowyr a’r gymuned hoyw ac sydd wedi dod yn ffrind oes i Siân James.

“Pan chi o dan ymosodiad, chi’n edrych am bobol eraill sydd o dan ymosodiad a chi’n dysgu o’r grwpiau yna beth mae bywyd wedi bod fel, a shwt maen nhw wedi gwthio nôl a delio gyda annhegwch,” meddai.

Dros gyfnod y Streic, llwyddodd y Lesbians and Gays Support the Miners i godi tua £20,000, swm o rhyw £80,000 heddiw, ar gyfer y glowyr – mwy nag unrhyw grŵp arall.

Croeso

Ar ôl codi’r arian, fe ddaeth criw o’r LGSM i Gwm Dulais, ac mae Jonathan Blake yn cofio’r ansicrwydd ynghylch pa fath o groeso fyddai’n eu disgwyl nhw.

“Roedden ni’n nerfus iawn – beth oedden ni’n gwneud yma?” meddai.

“Oedd o’n wirion?

“A dwi’n cofio ni’n cerdded i mewn i ddistawrwydd… A dechreuodd rhywun glapio, ac yna roedd yr ystafell gyfan yn cymeradwyo.

“Roedd o’n anhygoel.

“Roedd o fel ein bod ni adref.

“Roedden ni’n teimlo fel ein bod ni’n cael ein croesawu â breichiau agored, roedd o’n rhyfeddol. A doedd dim un ohonom ni’n ei ddisgwyl.

“Beth oedd y tebygrwydd rhyngom ni i gyd?” Meddai Siân James.

“Roedden ni gyd yn casáu Margaret Thatcher!”

Cymro hoyw

Mae’r profiad o fod yn y lleoliad yma yng nghwmni Jonathan Blake a Siân James yn un emosiynol iawn i’r cyflwynydd Owain Williams hefyd.

“Fi’n Gymro a fi’n ddyn hoyw – a fi mor falch o fod y ddau beth yna… Maen nhw wedi dangos i fi shwt mae’r ddau beth yna yn gallu cyd-fyw ynddo i.

“A phan mae’r rhannau yna’n dod at ei gilydd, dyna ble mae’r nerth i fod yn ti dy hun.

“Dyna beth yw’r esiampl mae’r ddau ohonyn nhw’n dangos i bobol fel fi.”

Yn y rhaglen, bydd Siân James hefyd yn derbyn gwobr arbennig i gydnabod ei chyfraniad oes i’r gymuned LHDTC+.

Cawn hefyd weld ochr arall iddi, sef ei diddordeb mewn gwnïo.

Mae hi wedi bod yn mynychu gweithdai yn y Little Stitchery yn Ystradgynlais ers chwe mlynedd, gan fod ganddi ddiddordeb mewn creu dillad tebyg i’r rhai fyddai cymeriadau Jane Austen yn eu gwisgo.

Mae hi’n galw ei hun yn ‘Austenite’ ac yn teithio gwledydd Prydain ac Ewrop i ddigwyddiadau Austen, gan gymryd rhan mewn gorymdeithiau yn gwisgo’r dillad crand yma.

Ar ôl bywyd o ymgyrchu ac edrych ar ôl pobol eraill, mae hi wedi dysgu rhywbeth newydd trwy fynd i’r gweithdai hyn.

“Beth fi wedi dysgu yw eich amser chi yw hwn, a dyw e ddim byd i wneud gyda gwleidyddiaeth, dyw e ddim byd i wneud gyda gwaith,” meddai.

“Y Siân sydd mo’yn bod yn dawel, y Siân sydd mo’yn dysgu, y Siân sydd mo’yn dilyn, nid arwain. Achos yn fan hyn, alla i ddilyn.”

Penodau eraill

Mae penodau eraill y gyfres gyda’r rheolwr pêl-droed Osian Roberts, y darlledwr Jason Mohammad, y dylanwadwr a’r cyflwynydd Jess Davies a’r gitarydd Peredur ap Gwynedd i’w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw trwy’r dyddiau da a’r amseroedd anodd.

Ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd â nhw, nac i le maen nhw’n mynd nesaf.