Ar Ddydd Miwsig Cymru, mae golwg360 wedi bod yn holi rhai o enwau adnabyddus y genedl am eu hoff artistiaid, caneuon ac atgofion gigs.


Bethan Gwanas

Bethan Gwanas
Llun: Iolo Penri

Yn ôl yr awdures Bethan Gwanas, mae un gân wedi bod yn ffefryn ganddi ers blynyddoedd, sef Pendramwnwgl gan Steve Eaves.

“O’r gitâr hudolus ar y dechrau i’r gytgan sy’n codi’r blew ar fy ngwâr am ei bod yn taro’r hoelen o fod mewn cariad ar ei phen: ‘Pendramwnwgl, tin dros ben, tu chwith allan, allan o mhen…’,” meddai.

“Mae’n handi iawn i ddysgu idiomau i ddysgwyr Cymraeg hefyd.”

Ond dydy dewis hoff artist ddim yn dod mor hawdd iddi.

“Mae gen i nifer o ffefrynnau. A fel dwi’n mynd yn hŷn, dwi’n ffafrio lleisiau merched,” meddai.

“Iawn, os oes rhaid dewis un: Lleuwen.

“Ro’n i’n crio fel babi yn gwrando arni’n canu am alar yn y sioe Gair o Gariad, a ’dach chi byth yn anghofio sut mae pobol yn gwneud i chi deimlo.”

Wrth edrych yn ôl ar atgofion o gigs, mae un diwrnod “bythgofiadwy” wedi aros yn y cof.

“Ro’n i’n llawer rhy ifanc i fod yno yn swyddogol, ond ges i fynd ar y bws o Ddolgellau i gig olaf (cyntaf) Edward H. Dafis yng Nghorwen,” meddai.

“1976 oedd hi, dwi’n meddwl, a phawb yn eu denims a chadachau gwddw coch fel Charli Britton.

“Roedd hi’n tresio bwrw tu allan ac roedd yna gymaint o bobol tu mewn, roedd hi’n bwrw angar/stêm/chwys o’r to.

“Yn aml, doedd fy nhraed ddim yn cyffwrdd y llawr pan fyddai’r dorf i gyd yn dawnsio, a dwi’m yn siŵr os wnes i stopio dawnsio.

“Bythgofiadwy. Snogio’r holl ffordd adre ar y bws wedyn ond dwi’m yn cofio pwy oedd o.”


Dylan Ebenezer

Dylan Ebenezer

Does dim syndod mai gig adeg yr Ewros yn 2016 sydd wedi aros gyda’r sylwebydd chwaraeon Dylan Ebenezer.

“Ddim yn 100% Cymraeg – ond Super Furries yn Toulouse yn ystod Ewro 2016,” meddai.

“Y noson cyn i Gymru chwalu Rwsia.

“Miloedd o Gymry yn Ffrainc – hetiau bwced bobman – yr haf gorau erioed – a’r Furries yn hudolus (fel arfer).”

Ond yn ôl Dylan Ebenezer, mae ei hoff gân ac artist yn newid bob dydd.

Ar hyn o bryd, meddai, Ethiopa Newydd gan Geraint Jarman fyddai ei ddewis.

‘Y rocars a’r gwalltiau cyrliog yw dyfodol Gwalia nawr.’ Tiwn enfawr,” meddai.

Y band roc o’r 80au, Datblygu, yw ei ddewis ar gyfer hoff artist.

“Mae caneuon/geiriau/syniadau Dave a Pat dal yn chwalu fy mhen,” meddai.

“Rhwng y crio – rhwng y chwerthin…”


Hedydd Ioan

skylrk

Datblygu yw hoff artist Hedydd Ioan, enillodd Frwydr y Bandiau 2021 o dan ei bersona cerddorol Skylrk, hefyd.

A phan ddaw i’w hoff gân, sengl ddiweddaraf Pys Melyn, Arwyddion, sy’n cipio’r goron.

Fel un o Wynedd ei hun, dywed Hedydd fod unrhyw un o gigs Tin Sardines, sydd wedi bod yn cael eu trefnu yn lleol “yn anhygoel.”

“Roedd lansiad albwm Kim Hon cyn y Nadolig yn yr Hen Gwrt yng Nghaernarfon yn arbennig iawn hefyd!” meddai.


Eurig Salisbury

Hoff gân y bardd Eurig Salisbury, sy’n enedigol o Gaerdydd, yw Anwybodaeth gan SYBS, a’i hoff artist yw Melin Melyn – ar hyn o bryd!

Gig olaf Cymdeithas yr Iaith yn Nefyn dros wythnos Eisteddfod Boduan gydag Estella, Gai Toms a Bob Delyn yw’r un sy’n aros yn y cof.

“Ffrindiau, cwrw, canu, briliant,” meddai.


Richard Holt

Dawnsia gan Fleur De Lys a chaneuon Yws Gwynedd yw ffefrynnau’r pobydd Richard Holt, sy’n treulio’i amser yn creu pob mathau o ddanteithion draw ym Melin Llynon.

A’r gig orau? “Y Moniars yn Ysgol Gyfun Llangefni circa 2005.”

“Wnaeth Arfon Wyn wneud homar o speech yn ganol cân epic: ‘Peidiwch â gwrando i be’ mae athrawon yn deud dylsa chi neud! Os da chi isio chwarae gitar, chwaraewch chi gitar!'”


Ben Lake

Ben Lake oedd Llywydd y Dydd ar y Sadwrn olaf yn Eisteddfod Ceredigion 2022

Pan gaiff Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru, saib o gynrychioli Ceredigion lawr yn San Steffan, mae’n mwynhau gwrando ar ganeuon Edward H. Dafis neu ei hoff gân, Môr o Gariad gan Meic Stevens.

Ac fel sawl un arall, mae’n debyg, Dafydd Iwan oedd seren y gig gorau iddo ei fynychu.

“Mae gen i atgofion melys iawn o fynd i ŵyl gerddoriaeth Bro Dinefwr pan oeddwn i’n iau, a chlywed Dafydd Iwan am y tro cyntaf yn fy mywyd yn canu Yma o Hyd,” meddai.

“Mae hynny’n atgof fydda i’n meddwl amdano’n aml!”


Welsh Whisperer

Welsh Whisperer
Welsh Whisperer

Mae’r botel wedi ‘ngadael i lawr gan John ac Alun yw dewis Welsh Whisperer, ‘The Mansel Davies Man’, fydd wrthi’n gigio’r wlad ei hun dros y misoedd nesaf.

O ran artist, y gantores canu gwlad Doreen Lewis sydd yn sefyll allan.

Ond mae ganddo ddau ddewis pan ddaw i’w hoff gig.

“Sioe Aberystwyth yn perfformio gyda Dafydd Iwan, neu rannu llwyfan gyda Bryn Fôn ym Mhenmaenau,” meddai.

“Y rhai gorau yw’r rhai lle mae pob oed yn bloeddio!”


Katie Gill-Williams

Katie Gill-Williams

Dim Hi gan Hanna 2K yw hoff gân y ddigrifwraig Katie Gill-Williams, tra mai Cate Le Bon yw ei hoff artist.

Ac yn ôl Katie, gwylio’r artistiaid Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard a Meinir Gwilym, sy’n ffurfio’r grŵp gwerin Pedair, yng Nghapel Jerusalem, Bethesda oedd ei hoff berfformiad byw hyd yma.

“Es i blwyddyn diwetha’, ac roedd yn noson magical,” meddai.


Gruffydd Ywain

Newid rhwng Ymlaen mae Cannan gan Steve Eaves a Gorwedd Gyda’i Nerth gan Eden mae hoff gân y dramodydd Gruffydd Ywain, yn “dibynnu sut hwyliau” sydd arno!

A phan ddaw i’w hoff artistiaid, mae gan enillydd Medal Ddrama 2022 lu o awgrymiadau.

“Mae’n rhaid i fi ddeud Sŵnami wrth gwrs, hyd yn oed hefo’r cysylltiad teuluol i un ochor maen nhw yn grêt!” meddai.

“Ond honourable mentions i Rogue Jones, The Gentle Good, Caryl ac Eden.

Melda Lois a Buddug sydd ar repeat gen i ar hyn o bryd.”

Fel un o Ddolgellau, mae gan Gruffydd Ywain “lwyth o atgofion melys o’r Sesiynau Fawr.”

“Yn enwedig o’r cyfnod ar y sgwâr, a’r Marian yn ddiweddarach, yn gwylio bandiau megis Anweledig, Frizbee a… Mega!” meddai.

“Amser i Mega ddod yn ôl. Dw i fwy na hapus yn dylunio gwaith celf ar eu cyfer.”


Morgan Elwy

Morgan Elwy

Dwfn yw Sŵn y Bas yn Butetown gan Geraint Jarman yw hoff gân Morgan Elwy, y canwr o Lansannan.

Ac fel un sydd yn adnabyddus am ei ganeuon reggae Cymraeg, does fawr o syndod mai Anweledig yw hoff fand Morgan Elwy chwaith.

Roedd y gig gorau iddo fynychu, sef Gwyl Crug Mawr yn 2016, yn gyfuniad o rai o’i hoff elfennau cerddorol.

“O’n i’n chwarae hefo Trwbz, odd Bandana yn ffab a wedyn stymblo ar draws reggae Cymraeg Geraint Jarman am y tro cyntaf mewn pabell,” meddai.


Gillian Elisa

Gillian Elisa (dde). Llun: Craig Fuller

Mae gan Gillian Elisa, fu’n portreadu cymeriad Sabrina Daniels yng Nghwmderi am ddegawdau, un ffefryn amlwg pan ddaw i gerddoriaeth Cymraeg – Meic Stevens.

A’i hoff gân? Cân Walter, hefyd gan y canwr o Sir Benfro.

Un o’i hoff atgofion yw ei wylio’n perfformio yn Neuadd Buddug Llanbed gyda’i diweddar frawd yn ôl yn tua 2017.

“Gig arbennig ac emosiynol,” meddai.

“Meic Stevens ar ei orau…wedi bod yn gyson ers oeddwn i yn yr ysgol a ma’ fe dal i fynd. Arwr/eicon.”


Meilir Rhys Williams

Y profiad o gyd-ganu gyda’r dorf yn ystod perfformiad Eden yn Tafwyl sy’n aros yng nghof yr actor Meilir Rhys Williams, sydd fwyaf adnabyddus am bortreadu Rhys ar Rownd a Rownd.

“Nefoedd!” meddai.

Eden sydd tu ôl i’w hoff gân Gymraeg, Dim Mwy Dim Llai hefyd, tra mai Dafydd Dafis yw ei hoff artist.