Bu i tua 3,000 o ffermwyr ymgynnull mewn cyfarfod ym Mart Caerfyrddin nos Iau (Chwefror 8), er mwyn amlygu eu pryderon am yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant.

Roedd dros 1,000 o bobol yn bresennol mewn cyfarfod tebyg yn y Trallwng yr wythnos ddiwethaf.

Un o’r prif bryderon yw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir er mwyn bod yn gymwys am gymorth ariannol.

Darganfu adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru y byddai gofynion y cynllun yn arwain at leihad o hyd at 10.8% mewn niferoedd da byw, ac at golli 5,500 o swyddi.

Mae Sam Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud ei bod yn “anochel” erbyn hyn y bydd ffermwyr yn protestio.

“Pe bai Llywodraeth Cymru wedi cymryd fy ngalwadau i oedi’r ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy o ddifrif, yna gallai newidiadau i’r cynnig fod wedi’u gwneud,” meddai.

“Yn anffodus, cafodd fy ngalwadau, fel y galwadau gan y ffermwyr eu hunain, eu hanwybyddu.

“Mae protestiadau anochel ffermwyr yn gysylltiedig ag anallu Llywodraeth Cymru i wrando.

“Byddaf yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda ffermwyr yn ystod unrhyw brotest.

“Dim ond cadw at eich gilydd yw fy neges iddyn nhw, byddwch yn barchus, ond bydd y Ceidwadwyr Cymreig gyda chi.”

‘Rhaid sefyll gyda’n gilydd’

Un oedd yn bresennol yn y cyfarfod oedd Nigel Owens, y cyn-ddyfarnwr rygbi sydd bellach yn rhedeg fferm 90 erw yng Nghaerfyrddin.

Wrth rannu neges ar X (Twitter gynt) yn dilyn y cyfarfod, dywedodd ei bod yn glir nad yw’r polisïau presennol yn ymarferol.

“Roedd yn anrhydedd mawr i mi annerch y miloedd o ffermwyr a ddaeth i’r protest wirioneddol gyfiawn yn erbyn polisïau presennol Llywodraeth Cymru nad ydynt yn deg nac yn ymarferol ynghyd â’u polisi ar ddileu TB nad yw’n gweithio mewn gwirionedd,” meddai.

“Rhaid inni sefyll yn gryf a gyda’n gilydd.”

Dywedodd Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru, wrth BBC Cymru fod y cynllun yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi bod yn y gorffennol.

“Mae’n mynd i gael effeithiau trychinebus ar fusnesau ffermio,” meddai.

“Roeddwn i mewn cyfarfod neithiwr a dywedodd rhywun eu bod wedi mynd adref a jest crio.”

Fodd bynnag mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, wedi ategu bod canfyddiadau’r adroddiad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn seiliedig ar ymgynghoriad cynnar.

“Dwi’n meddwl mai’r hyn sy’n bwysig iawn o ran y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd yn pryderu lot o bobol ydi ei fod yn ymgynghoriad,” meddai.

“Os ydi pobol eisiau protestio, cyn belled â’u bod nhw’n gwneud hynny’n gyfreithlon ac yn heddychlon, dw i wedi bod ar sawl protest yn fy amser i a fi fyddai’r person olaf i ddweud na ddylech chi wneud hynny.

“Ond dw i ddim am dderbyn unrhyw fygythiadau yn erbyn fy swyddogion na fi fy hun.”

Ychwanega ei bod hi wedi derbyn adborth yn dilyn y cyfarfod yn y Trallwng yr wythnos ddiwethaf, a’i bod hi’n cydnabod y pryderon.