Mae mwy o lefydd mewn ysgolion Cymraeg yn flaenoriaeth i Gyngor Abertawe fel rhan o raglen fuddsoddi dros gyfnod o naw mlynedd allai gael ei chymeradwyo’r wythnos nesaf a’i chyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried.
Fel rhan o’r cynlluniau yn Abertawe, gallai ysgol uwchradd Saesneg Bishop Vaughan yn Nhreforys symud i hen safle Ysgol Gymunedol Daniel James ym Mynyddbach, ryw filltir i ffwrdd, fel rhan o gynlluniau i uwchraddio a moderneiddio cyfleusterau addysg y sir.
Mae gwella’r ddarpariaeth gynradd Gymraeg a sicrhau darpariaeth newydd yn fwriad mewn pedair ardal eang – Gorseinon a Phenllergaer; Sgeti, Dyfnant a Chilâ; Townhill, Mayhill, Waun Wen a Phlasmarl; a St Thomas a Phort Tennant.
Pe bai’r rhain yn cael eu gwireddu, byddai’r galw am addysg Gymraeg ar lefel uwchradd yn codi yn y blynyddoedd i ddod, a bydd bron i 250 o lefydd yn cael eu creu wrth ehangu Ysgol Bryn Tawe ym Mhenlan.
Cost debygol y rhaglen addysg eang yw £416m, gyda Llywodraeth Cymru’n darparu £304m a’r Cyngor yn neilltuo £112m dros gyfnod o naw mlynedd.
Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i gau ysgolion.
Adroddiad
Mae adroddiad gerbron y Cyngor yn dweud bod trafodaethau ag Ysgol Gatholig Bishop Vaughan a chynrychiolwyr o esgobaeth Menevia wedi bod yn helaeth.
“Rydyn ni bellach wedi cyrraedd sefyllfa lle mai adeiladu o’r newydd ar gyfer Ysgol Gatholig Bishop Vaughan ar hen safle Daniel James yw’r ffordd ymlaen sy’n cael ei ffafrio, yn unol ag achos busnes yn cael ei gymeradwyo,” medd yr adroddiad.
“Rydyn ni eisiau i’n pobol ifanc ddysgu mewn amgylcheddau modern a chroesawgar drwy barhau i uwchraddio adeiladau ein hysgolion yn y rhaglen fuddsoddi mewn ysgolion fwyaf welodd Abertawe erioed,” meddai’r Cynghorydd Robert Smith, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu ac Addysgu.
Y cynllun
Bydd buddsoddiad yn y cynllun, sy’n cael ei alw’n Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer yr ysgolion sydd â’r anghenion mwyaf o ran amodau ac addasrwydd.
Gallai’r rhain gynnwys ysgolion cynradd Clydach, Dyfnant, Blaen-y-maes, Portmead, Brynhyfryd ac Ysgol Gatholig St Joseph’s, ynghyd ag Ysgol Gymraeg Bryn-y-Môr.
Yn y cyfamser, dywed y Cyngor y byddan nhw’n parhau i leihau’r ôl-groniad o ran gwaith atgyweirio mewn ysgolion eraill.
Mae ysgolion uwchradd Saesneg Tre-gŵyr ac Olchfa eisoes wedi’u clustnodi ar gyfer buddsoddiad, a dywed y Cyngor fod yna botensial ar gyfer prosiectau newydd yn ysgolion Bishop Gore, Pontarddulais a Phenyrheol yn y dyfodol.
Byddai pob cynnig yn ddibynnol ar lefel y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ac ar achosion busnes unigol, ynghyd â rhagor o adroddiadau cabinet, ac ymgynghoriad pe bai angen.
Mae’r Cyngor wedi adeiladu saith ysgol newydd ac wedi uwchraddio saith ysgol arall ar raddfa fawr dros y degawd diwethaf, gyda Llywodraeth Cymru’n talu’r rhan fwyaf o’r costau.
Mae tri phrosiect sylweddol arall ar y gweill, gan gynnwys ysgol arbennig gwerth £43m sy’n cael ei chreu drwy gyfuno Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas, ac mae disgwyl iddi agor yn 2028.
Mae ysgolion cynradd newydd ar y gweill ar gyfer pedair ystad newydd yn Garden Village, Penllergaer, Pontarddulais a de-orllewin Llangyfelach.
Caiff ysgolion eu hadeiladu o dan y fath amgylchiadau pan fod nifer o dai wedi cael eu hadeiladu ar ystad fel rhan o gytundeb cynllunio rhwng y Cyngor a’r datblygwr, er bod Ysgol Gynradd Garden Village yn rhan o raglen ysgolion bresennol rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru.