Bydd arddangosfa ffotograffiaeth arloesol yng Nghaernarfon yr wythnos nesaf (Chwefror 10-17) yn darlunio dyfodol Cymru, yr Alban a Chatalwnia, gan “gyfleu emosiynau a theimladau pobol”, yn ôl Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth sy’n arwain y prosiect.

Bydd Oriel CARN yn cynnal ‘Pen Rheswm / Gwrando’r Galon: Darlunio’r Dyfodol: Ffotograffiaeth o Gymru, yr Alban a Chatalwnia’ – arddangosfa o 46 o ffotograffau amrywiol gan 35 o ffotograffwyr o’r tair gwlad.

Bydd derbyniad swyddogol ar gyfer yr arddangosfa ddydd Iau nesaf (Chwefror 15).

Bydd yr arddangosfa yn cynnig cipolwg prin i ymwelwyr ar sut y gall profiadau bywyd pobol effeithio ar y ffordd maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am ddyfodol eu gwlad.

Mae’r arddangosfa hefyd yn unigryw yn sgil y bwriad i gasglu ymatebion yr ymwelwyr wrth ofyn y cwestiwn ‘Beth sy’n bwysig i chi am ddyfodol Cymru?’

Wedi’i threfnu gan Dr Elin Royles a Dr Anwen Elias o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r arddangosfa’n rhad ac am ddim ac yn rhan annatod o’u hastudiaeth academaidd, amhleidiol ar y teimladau a’r profiadau sy’n llunio safbwyntiau pobol am annibyniaeth.

Cydweithio

Cydweithiodd y tîm yn Aberystwyth â chlybiau ffotograffiaeth a myfyrwyr, gan herio dibyniaeth gonfensiynol academyddion ar ymatebion arolygon a data demograffig – fel oedran, rhyw neu ddosbarth – wrth archwilio agweddau at annibyniaeth.

Ar drothwy derbyniad swyddogol yr arddangosfa, mae Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru, yn dweud bod hwn yn ychwanegiad hollbwysig ac yn “haen newydd” i’r drafodaeth am annibyniaeth ac yn “agoriad llygad”.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan ffotograffwyr o Glwb Camera Aberystwyth, Oriel y Gweithwyr yn Ynyshir yng Nghwm Rhondda, Foto-Cine Mataró d’UEC (Clwb Camera Mataró), ac IEFC: Institut d’Estudis Fotogràfics de Catalunya (Sefydliad Astudiaethau Ffotograffig Catalwnia).

Mae mynediad am ddim.

“Byddem yn annog y cyhoedd yn fawr iawn i ddod draw i archwilio’r casgliad hynod ddiddorol hwn o 40+ o ffotograffau a chyfrannu at brosiect Prifysgol Aberystwyth os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny,” meddai Menna Thomas, cydlynydd CARN.

“Bydd gweithgareddau am ddim i deuluoedd drwy gydol yr wythnos, ac felly mae’r arddangosfa yn medru cynnig rhywbeth i bob aelod o’r teulu.”

Fe fu Dr Elin Royles yn trafod yr arddangosfa a thema annibyniaeth wrth siarad â golwg360.