Mae undeb penaethiaid ysgolion Cymru, NAHT, yn galw am roi’r cyllid ychwanegol ar gyfer addysg gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol i ysgolion.

Daw hyn wedi i £25m ychwanegol gael ei gyhoeddi ar gyfer Awdurdodau Lleol, yn rhannol i helpu gyda phwysau ariannu ysgolion.

Mae Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol yr undeb, yn galw am roi’r arian ychwanegol yn nwylo ysgolion er mwyn eu helpu i ddelio â’r argyfwng ariannu ar hyn o bryd.

“Fel y dangosodd ein hadroddiad diweddar ar gyllido ysgolion, mae ysgolion ledled Cymru mewn sefyllfa enbyd, gyda llawer yn cael gwybod bod angen iddyn nhw wneud toriadau o hyd at 10% ac na fyddan nhw’n cael gosod cyllidebau diffygiol,” meddai.

“Mae hyn yn golygu nad oes gan ysgolion unrhyw ddewis arall ond diswyddo cynorthwywyr addysgu ac athrawon gwerthfawr a mawr eu hangen mewn rhai achosion.

“Rydym yn galw ar bob Awdurdod Lleol i wrando ar y proffesiwn, clustnodi’r arian mae NAHT wedi ymgyrchu amdano ar raddfa genedlaethol ar gyfer ysgolion, a chamu i mewn cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Diwygio addysg

Daw hyn wedi i Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, addo diwygio addysg alwedigaethol yng Nghymru.

Dywed ei fod e eisiau gweld llwybrau addysg alwedigaethol yn cael eu trin â’r un parch â rhai academaidd.

Fodd bynnag, cododd Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, bryderon nad oes gan ysgolion y gyllideb i allu gwneud hynny.

“Mae gennyf amheuon difrifol ynghylch y llwyth gwaith i athrawon, a fydd yn awr yn gorfod ymgyfarwyddo â chymwysterau newydd, ac unrhyw gostau ychwanegol ar gyllidebau ysgolion sydd eisoes dan bwysau,” meddai.