Mae cwynion wedi bod gan rieni ac Aelod Seneddol lleol ar ôl i Gyngor Sir y Fflint gau pob ysgol yn y sir oherwydd rhybudd am eira, er gwaetha’r ffaith nad oes eira yn yr ardal.
Roedd y Cyngor wedi penderfynu ddoe (dydd Mercher, Chwefror 7) y byddai holl ysgolion y sir yn cau – sef 88 o ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ysgolion ar gyfer plant ag anghenion arbennig – oherwydd rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd.
Ond mae beirniadaeth wedi bod gan rieni ar ôl darganfod bore ma nad oedd eira wedi disgyn dros nos.
Roedd y rhybudd ar gyfer 8yb heddiw hyd at 3yp oherwydd pryderon y gallai hyd at ddeg modfedd o eira ddisgyn mewn rhai ardaloedd.
Mae rhybudd oren am eira a rhew yn golygu y gallai teithwyr wynebu oedi ar y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus, y posibilrwydd o golli cyflenwad trydan, a phroblemau i gerddwyr a chymunedau yng nghefn gwlad.
Ond mae llawer o rieni wedi cwyno am y gost sydd ynghlwm wrth gymryd diwrnod i ffwrdd o’r gwaith neu chwilio am ofal plant ar fyr rybudd.
‘Costau i rieni’
Roedd Rob Roberts, yr Aelod Seneddol annibynnol dros etholaeth Delyn, yn feirniadol ar Facebook o’r penderfyniad, gan gellwair bod yr amodau tu allan yn “beryglus”.
“Diwrnod arall o addysg wedi’i golli i’r disgyblion sydd eisoes wedi colli cymaint yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai.
“Llwyth arall o gostau i rieni sy’n gorfod dod o hyd i ofal plant ar fyr rybudd neu gymryd diwrnodau i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am eu plant. Dyma’r penderfyniad arbennig rydych yn talu eich treth gyngor amdano, bobol.”
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra gan ddweud eu bod nhw wedi gobeithio y byddai’r cyhoeddiad o flaen llaw am gau ysgolion yn golygu bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer gwersi ar-lein.
Dywed y Cyngor y bydd ysgolion yn ailagor yfory (dydd Gwener, Chwefror 9).