Mae’n rhaid i’r Blaid Lafur wrando ar ffermwyr Cymru cyn ei bod yn rhy hwyr, yn ôl Aelod Ceidwadol o’r Senedd.

Mae Sam Kurtz, llefarydd materion gwledig y blaid, wedi bod yn ymateb i sylwadau arweinwyr y diwydiant amaeth sydd wedi rhybuddio bod protestiadau, fel y rhai sydd wedi bod yn Ffrainc dros yr wythnosau diwethaf, “fwy neu lai yn anochel”.

Mae ffermwyr ar draws Ewrop wedi bod yn gweithredu, yn bennaf oherwydd diwygiadau amgylcheddol a chostau cynyddol.

Ac mae undebau amaeth yng Nghymru wedi rhybuddio bod llawer o anniddigrwydd ymhlith ffermwyr yn sgil diwygiadau Llywodraeth Cymru.

Mae newidiadau i’r cymorth mae ffermwyr yn ei gael a’r rheolau mae’n rhaid iddyn nhw eu dilyn yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ffermwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad am y cynlluniau.

Ond mae Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi “fwy neu lai yn anochel y bydd rhyw fath o brotest gan ffermwyr”.

‘Rhwystredigaeth a dicter’

“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur wrando ar y diwydiant amaeth cyn ei bod hi’n rhy hwyr,” meddai Sam Kurtz.

“Mae ffermwyr Cymru wedi gorfod delio â llu o newidiadau polisi mewn cyfnod byr o amser, nid yw eu rhwystredigaeth yn cael ei glywed gan y Llywodraeth Lafur ac maen nhw’n teimlo mai protestiadau yw’r unig opsiwn.

“Mae yna wir ymdeimlad o rwystredigaeth a dicter yn y sector ar hyn o bryd, felly rwy’n annog Llywodraeth Cymru i oedi’r ymgynghoriad hwn ac i ailddyblu eu hymdrechion i gael y cynllun yn iawn fel ei fod yn gweithio i ffermwyr Cymru.”