Prifysgol Abertawe yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i lansio cwrs nyrsio hyblyg sy’n galluogi myfyrwyr i drefnu eu hastudiaethau o amgylch eu bywydau dydd i ddydd.
Mae Catherine Norris, Pennaeth yr Adran Nyrsio, yn pwysleisio nad oes oedran penodol ar gyfer astudio cwrs o’r fath, ac mae’r brifysgol yn gobeithio gwneud yr opsiwn yn un sy’n fwy deniadol i bobol o bob cefndir.
Bydd y cwrs yn rhedeg yn rhan amser dros bedair blynedd, er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i weithio neu ddarparu gofal ochr yn ochr â’u hastudiaethau.
Y bwriad yw fod y cynllun peilot yn cychwyn ym mis Ebrill, yn y gobaith y bydd y cwrs yn lleddfu rhai o’r rhwystrau sy’n dal pobol yn ôl rhag dilyn gyrfa yn y maes.
“Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar fyfyrwyr sydd ar y rhaglen lawn amser ar y foment, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cael trafferth fforddio’r cwrs neu gael swyddi rhan amser,” meddai wrth golwg360.
“Gyda nyrsio, mae’r ddemograffeg yn eang iawn.
“Rydyn ni’n cael rhai sydd wedi gwneud Lefel A, ac rydyn ni’n cael rhai sydd wedi gwneud cyrsiau lefel mynediad.
“Mae oedran myfyrwyr yn gallu bod yn hŷn, efallai bod plant neu deuluoedd gyda nhw.
“Maen nhw hefyd yn aml yn gweithio’n rhan amser ac felly’n teimlo bod dod i’r brifysgol ac astudio’n llawn amser yn galed yn ariannol.”
‘Y brifysgol ddim jyst ar gyfer pobol ifanc’
Dywed Catherine Norris ei bod hi’n gobeithio y bydd y cwrs yn cryfhau’r neges nad oes cyfyngiadau ar bwy sy’n gallu mynd i’r brifysgol.
“Mae rhai pobol, efallai, yn meddwl bo nhw ddim digon da i ddod i’r brifysgol,” meddai.
“Ond dydy dod i’r brifysgol ddim jyst ar gyfer pobol ifanc; mae hefyd yn rywbeth ar gyfer y rheiny sydd wedi bod allan o’r system addysg ers blynyddoedd.”
Mae’r llwybr hyblyg yn galluogi myfyrwyr i barhau â’u swyddi rhan amser wrth astudio, boed y rheiny yn y sector iechyd neu beidio.
Mae hefyd yn cyd-fynd â hanner tymor ysgolion er mwyn cael gwared ar y straen sy’n wynebu rhieni wrth ddod o hyd i ofal plant.
Ychwanega fod llawer o ddarpar nyrsys wedi rhoi’r gorau i’w hastudiaethau yn ystod y pandemig, a bod pwysau ariannol wedi eu rhwystro nhw rhag dychwelyd.
Felly, mae hi’n gobeithio y bydd y potensial i barhau â’u hastudiaethau heb orfod rhoi’r gorau i’w swyddi presennol yn denu’r myfyrwyr hynny’n ôl.
Cwymp ers covid
Yn ôl Catherine Norris, bu i niferoedd yr ymgeiswyr godi’n sylweddol iawn yn ystod y pandemig, fwy na thebyg am fod pobol yn teimlo eu bod nhw eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Ond ers i’r pandemig symud am i lawr, dydyn ni ddim yn gweld cymaint o ymgeiswyr,” meddai.
“Bob diwrnod, rydyn ni’n gweld straeon bod nyrsys yn gadael ac wedi blino, felly dydy hynny ddim yn hysbyseb da, a dyw nyrsio ddim yn ymddangos mor ddeniadol ag oedd e.”
Mae’r brifysgol yn gobeithio y bydd y cwrs yn gwneud nyrsio’n opsiwn gyrfa sy’n fwy cyraeddadwy, ac yn gwyrdroi’r ffigurau.
Mae Catherine Norris yn gobeithio, pe bai’r cwrs peilot yn llwyddiannus, y bydd modd ei gynnal ddwywaith y flwyddyn.
Dywed fod llawer o gyrsiau eraill o fewn yr adran y gallen nhw geisio sicrhau eu bod nhw’n dilyn yr un strwythur pe bai’r cynllun peilot yn llwyddiannus.
Streicio dros gyflogau
Er bod y brifysgol yn chwarae eu rhan wrth wneud y diwydiant yn un mwy deniadol, cyfaddefa Catherine Norris fod gwaith pellach i’w wneud i gynnal y gweithlu.
“Rydw i’n gwybod fod yr arian ddim yn grêt, ond ar ddiwedd y dydd mae’r job satisfaction yn ffantastig; dydy pobol sy’n mynd i mewn i nyrsio ddim yn ei wneud e am yr arian,” meddai.
“Ond aeth y Coleg Brenhinol Nyrsio ar streic am y tro cyntaf yn ddiweddar.
“Dw i yn credu bod cyflogau yn cael effaith o ran denu pobol i mewn i’r proffesiwn, ac mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth er mwyn gallu datblygu hynny.”