Mae cynllun newydd yn Sir Ddinbych yn ceisio mynd i’r afael â’r ffaith fod canran poblogaeth y sir nad ydyn nhw ar-lein yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru.
Bydd cynllun Hyder Digidol Sir Ddinbych, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn, ac mae’n anelu i dargedu’r 9% o ddinasyddion nad ydyn nhw ar-lein.
Dywed Ema Williams, un o’r hyfforddwyr, fod sesiynau arbenigol wedi cael eu cynnal ar bynciau fel diogelwch ar-lein, sut i ddefnyddio dyfeisiau, a sut i arbed arian.
Mae sesiynau galw heibio ar gael mewn canolfannau a llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych hefyd, lle mae trigolion yn gallu manteisio ar y cyfle i ofyn cwestiynau.
“Dw i newydd ddod yn ôl adref o Brestatyn ble oeddwn i’n helpu unigolyn wneud cyflwyniad PowerPoint; doedd ganddi ddim syniad ble i gychwyn,” meddai Ema Williams wrth golwg360.
“Ond ddaru hi adael yn lot mwy hyderus ac yn gyffrous i allu gwneud un ei hun.
“Ar y funud, mae yna lot o rwystrau sy’n atal pobol rhag mynd ar-lein.
“Mae yna bethau fel arian sy’n golygu nad yw pobol yn gallu fforddio prynu dyfeisiau neu gael cysylltiad i’r we, ond mae yna hefyd pethau fel ofn, diffyg hyder a diffyg sgiliau sy’n dal pobol yn ôl.
“Rydyn ni’n trio taclo pob un o’r rhwystrau yma.”
Croesawu pob lefel sgil
Dywed Ema Williams fod pobol hollol amrywiol yn mynychu’r sesiynau.
“Rydyn ni’n dod ar draws lot o bobol sydd efo dim diddordeb, ac felly rydyn ni wedi bod yn cynnal sesiynau ysbrydoledig er mwyn dangos pa fath o bethau y gallwch chi eu gwneud ar-lein,” meddai.
“Wnes i un lle oeddwn i’n dangos i bobol hŷn yn y Rhyl sut i chwilio am hanes.
“Felly roedden ni’n defnyddio pethau fel YouTube i edrych ar hen fideos o’r dref yn y ’60au, ac roedden nhw wrth eu boddau.”
Fodd bynnag, dywed fod gan hanner arall y bobol sy’n mynychu ddiddordeb mawr eisoes mewn manteisio’n llawn ar dechnoleg, ond nad ydyn nhw’n gwybod lle i gychwyn.
“Efallai fod ganddyn nhw ddim aelodau o’r teulu i allu eu helpu nhw, neu dydyn nhw ddim yn gwybod ble i gychwyn, felly rydyn ni’n teilwra ar gyfer y ddau grŵp,” meddai.
Ychwanega eu bod nhw’n annog pobol o bob lefel sgil i ddod i’r sesiynau, cyn belled â’u bod nhw’n byw yn Sir Ddinbych.
“Rydyn ni’n annog pawb i ddod, dim ots pa lefel sgil,” meddai.
“Hyd yn oed os does ganddyn nhw ddim eu dyfais eu hunain, mae gennym ni rai iddyn nhw eu trio.
“Maen nhw’n andros o bethau drud i bobol brynu os dydyn nhw ddim yn gwybod sut i’w defnyddio.”
Sesiwn wedi arwain at swydd
Mae’r sesiynau yn anelu i roi’r adnoddau sydd eu hangen ar bobol i aros yn ddiogel ar y we, ac mae sut i osgoi sgamiau yn un o’r pynciau niferus sy’n cael eu trafod.
Ond er bod yna ystrydeb mai dim ond pobol hŷn sy’n methu deall technoleg, dywed Ema Williams fod amryw o bobol wedi bod yn mynychu’r sesiynau.
“Wnaethon ni gychwyn i ffwrdd efo lot o bobol hŷn, ond rydyn ni wedi bod yn cydweithio gyda Sir Ddinbych yn Gweithio ac yn ymuno â’u clybiau swyddi ar draws y sir,” meddai.
“Beth rydyn ni wedi ffeindio ydy bod yna lot o bobol iau sy’n chwilio am swyddi, ac sydd jyst eisiau tipyn bach o gymorth.”
Dywed fod un sesiwn wedi helpu dynes yn ei 50au oedd newydd golli ei swydd i ddod o hyd i waith newydd.
Roedd y disgrifiad swydd yn dweud bod angen gallu amserlennu, ond doedd y ddynes ddim yn siŵr a oedd ganddi’r sgil, meddai.
“Wnes i eistedd i lawr gyda hi a dangos iddi sut i ddefnyddio gwahanol apiau calendr.
“Erbyn y diwedd, roedd hi gymaint mwy hyderus ac mae hi wedi cael y swydd, felly mae’n amlwg ein bod ni’n gwneud rhywbeth!”