Mae cyllid gwerth €155,731 wedi’i ddyrannu gan Weinidog y Gaeltacht i brosiect archifo’r mudiad Gwyddeleg Conradh na Gaeilge.
Bydd yr arian yn helpu’r mudiad i barhau i ddatblygu archif sy’n olrhain ei hanes ers ei sefydlu yn 1893, gan gynnwys adfywiad yr iaith Wyddeleg, a rôl y mudiad yn y frwydr dros annibyniaeth yn Iwerddon.
Fe fu’r mudiad yn awyddus ers tro i sicrhau mynediad i’r cyhoedd ac ymchwilwyr i’r archifau, ac mae Adran Ddiwylliant a’r Gaeltacht wedi cefnogi’r prosiect ers 2016.
Yn sgil yr arian, fe fydd modd parhau i ddigideiddio’r papur newydd An Claidheamh Soluis a chofnodion pleidiau gwleidyddol.
Mae’r archif hefyd yn cynnwys hanes yr iaith Wyddeleg o ddechrau’r Adfywiad hyd heddiw, ac mae’r hanes wedi cael ei drafod mewn degau o ddigwyddiadau cyhoeddus, gyda phedair cyfres o gyflwyniadau bellach ar gael i fwy na 200 o ganolfannau a grwpiau.
Mae Conradh na Gaeilge yn gobeithio cadw arddangosfa barhaol o’r archifau yn Nulyn.
“Cydnabod pwysigrwydd” yr archif
Mae Patrick O’Donovan, Gweinidog Gwladol Iwerddon, yn dweud bod y llywodraeth “yn cydnabod pwysigrwydd deunydd o’r archif” o ran hanes Iwerddon a’r Wyddeleg.
“Mae’n bwysig fod y deunydd hwn yn cael ei gynnal a’i gadw, a’i fod yn cael ei roi ar gael i genedlaethau i ddod,” meddai.
“O ganlyniad i’r gwaith digideiddio sydd wedi’i gwblhau hyd yma, mae gennym adnodd ar-lein ardderchog, ac mae’n wych fod y casgliad ar gael i’w weld ledled y byd.”
Mae Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge, wedi diolch i’r llywodraeth am yr arian.
“Bydd y ffocws dros y ddwy flynedd nesaf yn benodol ar gyflwyno i’r cyhoedd y deunydd sydd eisoes wedi’i ddigideiddio, a deunydd newydd sydd heb ei ddigideiddio eto, a rhannu gwybodaeth gefndirol ar Adfywiad yr iaith Wyddeleg yn eang ym mhob sir,” meddai.