Mae Elin Jones a Ben Lake, gwleidyddion Plaid Cymru yng Ngheredigion, wedi ymateb i bryderon am ddyfodol ffatri Sensient yn Felinfach.

Mae’r cwmni Americanaidd sy’n datblygu blasau a lliwiau bwydydd wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried cau’r safle, ac mae pryderon am swyddi’r tua 100 o bobol sy’n gweithio yno.

Daw hyn wrth i’r cwmni ystyried ailstrwythuro a chanoli rhai o’u gwasanaethau, gyda rhai swyddi gwerthu a gweinyddol mewn perygl o gael eu dileu.

“Fel rhan o’r cynllun, mae’r cwmni yn ystyried y posibilrwydd o gau’r cyfleuster gweithgynhyrchu yn Felinfach yng Nghymru, y posibilrwydd o gau’r swyddfa werthu yn Granada, Sbaen, a’r posibilrwydd o ganoli a dileu rhai swyddi gwerthu a gweinyddol,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

‘Ergyd anferthol’

“Newyddion sobor o bryderus am ffatri Sensient yn Felinfach,” meddai Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion.

“Maen nhw’n gyflogwr mawr yn lleol, a bydd colli’r swyddi hyn yn ergyd anferthol i’r ardal.

“Rwy’n gobeithio cwrdd gyda’r cwmni ar frys i drafod y sefyllfa ymhellach.”

‘Cyflogwr pwysig’

“Mae hyn yn newyddion difrifol, gyda’r cwmni yma yn gyflogwr pwysig yn yr ardal,” meddai Elin Jones, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Geredigion.

“Mi fydda i yn gofyn i’r Gweinidog Economi ymyrryd gyda’r cwmni yn syth i weld a oes unrhyw ffordd i achub y safle a’r swyddi.”