Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw o’r newydd am gadoediad rhwng Israel a Phalesteina, yn sgil cyrch milwrol posib gan Israel yn Rafah.
Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, byddai ymosodiad yn “annirnadwy”, ac mae’n “rhaid ei wrthwynebu yn y termau cryfaf”.
Mae ffoaduriaid o Balesteina yn cysgodi yn ninas Rafah yn ne Gaza.
Ond mae Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, yn mynnu parhau ag ymosodiadau ar y llawr, gan ddweud bod cynllun gwacáu ar y gweill.
Yn ôl yr Arglwydd David Cameron, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, mae mwy na hanner poblogaeth Gaza yn cysgodi rhag y brwydro yn yr ardal dan sylw.
Mae Saudi Arabia ymhlith y gwledydd sy’n rhybuddio Israel y gallen nhw wynebu “canlyniadau difrifol” pe bai’r ymosodiad yn mynd rhagddo.
‘Annirnadwy’
“Mae nifer o’r rhai sydd bellach yn cysgodi yn Rafah yn gwneud hynny ar ôl cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi. Mae’n annirnadwy eu bod yn awr yn wynebu cyrch milwrol; rhaid ei wrthwynebu yn y termau cryfaf,” meddai Liz Saville Roberts.
“Gyda mwy na 28,100 wedi marw ers dechrau’r gwrthdaro, ni all y gymuned ryngwladol fforddio eistedd ar ei dwylo tra bod y drasiedi yma’n dwyshau.
“Rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i chwarae ei rhan i sicrhau cadoediad ar unwaith.
“Rhaid i’r gymuned ryngwladol ddod at ei gilydd i alluogi rhyddhau’r gwystlon yn ddiogel, a rhoi diwedd ar gosb gyfunol pobol Palestina.”