Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cefnogi cynllun i gyfyngu ar y nifer o ail gartrefi neu lety gwyliau yn yr ardal.
Mae Aelodau Awdurdod y parc wedi cefnogi’r syniad o fabwysiadu deddf Cyfarwyddyd Erthygl 4 a fyddai’n golygu bod yn rhaid cael caniatâd gan awdurdod cynllunio i droi eiddo yn ail gartref neu lety gwyliau o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Daw wedi i’r awdurdod godi pryderon bod nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau yn Eryri yn effeithio ar argaeledd tai i bobl leol fyw ynddynt yn yr hir dymor.
Ar hyn o bryd mae un ym mhob chwe thŷ yn yr ardal yn ail gartref.
Er bod swyddogion yr awdurdod yn cydnabod lletyai gwyliau fel rhan bwysig o’r “cynnig gwyliau” yn Eryri gydag effaith economaidd bwysig, maent yn pryderu bod y gyfran o letyai gwyliau yn “anghymesur o uchel” ac yn parhau i dyfu.
“Os yw’r gyfran o letyai gwyliau’n rhy uchel neu’r twf yn rhy gyflym, mae pryderon ynghylch sut mae hyn yn effeithio ar amcanion yr Awdurdod o greu cymunedau cynaliadwy,” meddai
“Yn gyffredinol, nid yw’r farchnad dai yng Ngwynedd yn fforddiadwy i gyfran fawr o bobl leol. Er bod y rhesymau am hyn yn niferus ac yn gymhleth ac nid ydynt bob amser yn cael eu deall yn dda.
“Mae’n amhosibl felly i’n hymchwil cyfyngedig ddod i unrhyw gasgliad pendant, ond teimlir y byddai cyfran gymharol uchel a chynyddol o ail gartrefi a gosodiadau gwyliau yn debygol o gael effaith andwyol ar iechyd a fforddiadwyedd cyffredinol y farchnad dai lleol.”
“Amserol a cynhwysol”
Bydd cyfnod rhybudd o 12 mis er mwyn rhybuddio trigolion y parc am y newid posib yn cychwyn yn fuan a bydd sylwadau yn cael eu casglu ar gyfer ymgynghoriad.
Bydd llythyrau yn cael eu hanfon i’r trigolion sydd yn byw o fewn ffiniau’r parc yn ystod y cyfnod rhybudd er mwyn eu hysbysebu ynglŷn â’r newid.
Bwriedir cynnal sesiynau fforwm cymunedol gyda chynghorau tref a chymunedol hefyd, ynghyd a chodi ymwybyddiaeth am y newidiadau ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad bydd pleidlais ac os yw aelodau’n pleidleisio o blaid cynnig Erthygl 4 mae’n bosib bydd yn weithredol mor fuan â Mehefin 2024.
Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod, Tim Jones, bod y cynnig yn un “amserol a chynhwysol.”
“Hwn ydi’r ffordd ymlaen, mae’n rhaid i ni wneud o felly dw i o blaid y peth,” meddai.
Mae Is-gadeirydd yr Awdurdod, Edgar Wyn Owen, hefyd wedi cydnabod bod y cynnig yn un “pwysig iawn” i’r parc.
Dywedodd bod yn rhaid i bawb fod yn rhan o’r cynllun er mwyn osgoi cael rhai darnau o’r parc gyda thai haf ynddyn nhw.
Mae defnyddio’r system Erthygl 4 yn rhywbeth mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi pleidleisio o’i blaid.
Maent wrthi’n ystyried sylwadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, cyn gwneud eu penderfyniad terfynol.