Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol ac yn gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Yma mae’n ymateb i’r ffrae sydd wedi codi am newid enw Cymraeg tafarn yn Abergele i’r Saesneg. Mae Dylan Rhys Jones, sy’n byw yn Abergele, yn dweud iddo gael ei sarhau a’i fygwth am awgrymu bod eisiau cadw enw Cymraeg y dafarn…
Loes calon oedd clywed bod perchennog newydd tafarn Pen y Bont yn Abergele yn bwriadu newid ei enw i’r ‘Bridge Head’. Hyd yn oed fwy felly oedd darllen am yr ymatebion gafodd Dylan Rhys Jones i’w bostiad ar un o grwpiau Facebook y dref yn galw am gadw’r enw hanesyddol. Dw i ddim am drafod twpdra’r ymatebion a gafodd, ond efallai bod angen esbonio pam yn union fod newid enwau’n gymaint o broblem, a pham bod cadw enwau hanesyddol mor bwysig.
Yr ateb syml yw eu bod nhw’n storfa o hanes a gwybodaeth am ein bröydd ni. Mae’r enw dan sylw, Pen y Bont, yn dyddio’n ôl i’r 1820au. Dyna i chi ddwy ganrif o hanes ac adnabyddiaeth yn yr ardal, felly, sy’n cael eu sathru wrth ei newid. Hanes a diddordeb lleol yw’r union bethau y mae pobol eisiau eu gweld pan maen nhw’n ymweld ag ardal, neu’n symud i fyw ynddi, heb sôn am deimladau’r bobol leol am y mater. Dyna sy’n cyfoethogi ein profiad o fyw mewn lle.
Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid meddwl am yr ystyr. Dw i erioed wedi bod i Abergele (maddeuwch i mi), ond petawn i’n teithio i’r ardal i gwrdd â rhywun yn nhafarn Pen y Bont, mi faswn i’n anelu’n syth am y bont. Tydi’r gair Bridge Head yn Saesneg, ar y llaw arall, ddim o reidrwydd yn cyfleu’r syniad bod y dafarn wrth y bont.
Tydi’r Pen y Bont ddim yn eithriad yn hynny o beth ychwaith. Mae gan bob enw lle ystyr a hanes, a gan fod y Gymraeg heb newid yn ormodol dros y canrifoedd, mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddigon hawdd i’w deall, o ddysgu ychydig o’r iaith.
‘Cyfoethogi’
Fel un sydd – fel y rhai sy’n cael eu crybwyll yn erthygl Dylan Rhys Jones sy’n mynnu nad yw Abergele yn dref Gymreig bellach – wedi symud o Loegr i fyw yng Nghymru, mae fy mywyd yma wedi’i gyfoethogi gymaint gan y ffaith fy mod i’n deall enwau pob dim o’m cwmpas. Dw i’n byw ar lethrau Mynydd Cae-du, wedi’i enwi ar ôl fferm a safai wrth ei droed, a gafodd ei enwi yn ei dro oherwydd y gred leol mai yna y cafodd y bobol a fu farw o’r Pla Du eu claddu. Dw i’n edrych allan dros y Dyfi, ac ydy, mae hi’n ddwfn ac yn ddu.
Pan dw i’n edrych lawr y dyffryn i gyfeiriad Machynlleth, dw i’n gweld bod y dref wedi’i hadeiladu mewn man gwastad, cul a llaith. Tydi’r enwau Mack a Dovey sy’n cael eu harddel gan rai yn yr ardal yn cyfleu dim o hynny.
A dyna’r pwynt mewn gwirionedd. Os ydyn ni’n colli enwau lleoedd, rydyn ni’n colli pob dealltwriaeth o hanes a thirwedd ein hardal leol ni. Mae’r Gymraeg yn gymaint ran o’n hetifeddiaeth ni i gyd yng Nghymru, boed yn siarad yr iaith ai peidio, boed wedi’n geni yma ai peidio. Mae’n ganolog i bopeth sy’n ein gwneud ni’n Gymry. Nid yn rhan o ‘Livershire’ fyddai Abergele heb ei henwau lleoedd Cymraeg, ond yn rhan o nunlle, yn ddi-hunaniaeth.
Dyma pam mae’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn bodoli, i amddiffyn ein treftadaeth enwau lleoedd, ac i hybu’r defnydd ohonyn nhw. Dw i’n falch o allu dweud bod enw tafarn Pen y Bont ynddi. Hyd yn oed os ydy’r perchennog yn bwrw ymlaen gyda’r newid, bydd yr enw hanesyddol yno ar gof a chadw, i ddychwelyd pan ddaw gwell dealltwriaeth o hanes, ac iaith, a threftadaeth.