Dyma gyfres newydd sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Mandy Watkins, un o gyflwynwyr y gyfres Dan Do ar S4C a dylunydd mewnol, sy’n ein tywys o gwmpas ei chartref y tro yma. Mae hi’n byw ar Ynys Môn ac yn rhedeg cwmni dylunio mewnol Space Like This ym Mhorthaethwy…
Dw i’n byw yn y Fali ar Ynys Môn, ac wedi cael fy magu yn yr ardal. Er i mi symud i ffwrdd am gyfnod byr, roedd y dynfa tuag at yr ynys yn ormod!
Dan ni wedi bod yn byw yn ein cartref presennol am 10 mlynedd bellach. Ar ôl ei adfer ar ôl lot o waith caled, dan ni wedi ei roi ar y farchnad er mwyn trio symleiddio bywyd. Mae ganddon ni dri o blant a dan ni’n edrych am dŷ sydd ddim angen lot o waith er mwyn gwneud ein bywydau prysur yn haws.
Dan ni wadi adnewyddu’r tŷ bron yn gyfan gwbl – tynnu’r to, ail weirio a phlymio, tynnu waliau a llawer mwy.
Dan ni’n byw yn y gegin, ond yn y gaeaf does dim gwell gen i na chynnau’r tân a swatio yn y lolfa clud.
Fy hoff bethe o gwmpas y tŷ ydy’r byrddau bach lle dw i’n potsian efo steilio nhw yn wahanol, efo canhwyllau, a manion bach eraill diddorol. Fy hoff ddodrefnyn ydy’r soffa binc. Mae digon o le i bawb eistedd arni gan gynnwys yr anifeiliaid anwes.
Y bobl sydd yn gwneud tŷ yn arbennig. Dw i’n licio pethe neis ond y bobl sydd yn gwneud y tŷ yn gartref.
Mae’n tŷ ni yn llawn cymeriad a phersonoliaeth. Dan ni’n hoff iawn o gymdeithasu ac mae’r tŷ yn addas iawn ar gyfer hynny. Does dim byd gwell na chael llond tŷ o bobl yn chwerthin a mwynhau. Mae o’n dŷ cyfforddus a chartrefol dros ben, mae ganddon ni dau gi a chath ac maen nhw’n byw fel pobl acw!