Ydych chi’n adnabod y cyflwynydd teledu a’r actor yma sy’n dod o Sanclêr ger Caerfyrddin? Tu ôl i’r colur a’r wig, mae Owain Williams – fu’n gyflwynydd y rhaglen i blant Stwnsh Sadwrn am 12 mlynedd – yn chwarae rhan Tick yn y cynhyrchiad newydd o’r sioe gerdd Priscilla the Party! yn theatr HERE @ Outernet yn Soho yn Llundain.
Mae hi’n 30 mlynedd ers i’r ffilm eiconig The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert gael ei rhyddhau, a’r tîm creadigol y tu ôl i Priscilla Queen of the Desert The Musical sydd wedi llwyfannu’r cynhyrchiad newydd Priscilla the Party!
“Rydyn ni wedi bod yn adrodd y stori hon i gynulleidfaoedd mewn dros 30 o wledydd bellach, ers bron i ddau ddegawd a, waeth ble rydyn ni wedi perfformio o gwmpas y byd, mae pawb wedi cael croeso cynnes mewn sioe Priscilla,” meddai’r Cyfarwyddwr Simon Phillips.
“O ystyried y sylw sydd wedi bod i drag yn ddiweddar, mae’n siŵr na fu erioed amser gwell i ddathlu’r stori dwymgalon hon am gariad, cyfeillgarwch a derbyniad.”
Mae’r sioe yn cynnwys y clasuron Hotstuff, It’s Raining Men, Girls Just Wanna Have Fun, Finally, Go West, Say A Little Prayer, Boogie Wonderland, Shake Your Groove Thing, a I Will Survive.
Mae Priscilla the Party! yn dechrau ddydd Llun, Mawrth 25, ac mae tocynnau ar werth nawr. Mae rhagor o fanylion yma.