Mae un o drigolion lleol Abergele’n dweud ei bod hi’n “andros o bechod” fod dwy dafarn leol wedi colli eu henwau Cymraeg.

Daw sylwadau’r unigolion, fu’n siarad â golwg360 ond nad yw am gael ei enwi, ar ôl i’r Pen y Bont Inn droi’n Bridge Head gyda’r Gwindy bellach yn dwyn yr enw The Winery.

Bydd y Pen y Bont yn agor ei drysau unwaith eto, ond o dan yr enw newydd, ddydd Gwener (Mawrth 1).

Mae gan y Bridge Head berchnogion newydd yn dilyn cyfnod o ailwampio’r adeilad ar Stryd y Bont, ac maen nhw’n dweud y bydd adloniant ar benwythnosau, gan gynnwys gemau amrywiol a bingo, a bydd bwyd ar gael rhwng 12 o’r gloch tan 8 o’r gloch bob dydd Gwener.

Bydd ystafell barti ar agor bob nos Wener am 7 o’r gloch, gydag adloniant nos Wener yma (Mawrth 1) gan Natalie Jaxx a DJ, cyn i Tom Loughlin a DJ berfformio yno nos Sadwrn (Mawrth 2), a Rebecca Parry ddydd Sul am 4 o’r gloch a gemau amrywiol wedyn.

‘Dyw pobol ddim yn hapus’

“Dyw pobol ddim yn hapus,” meddai’r unigolyn wrth golwg360.

“Rydan ni’n dallt fod tafarnau eraill sydd ddim efo enwau Cymraeg, ond jyst y ffaith fod y ddau yn cael eu newid o fod ag enw Cymraeg ydy hyn.

“Mae’r arwyddion newydd wedi mynd i fyny ers ddoe, ac mae’r enwau Cymraeg yna, er yn dipyn llai a ddim mor amlwg.

“Y Saesneg ydy’r enw llawer mwy amlwg.

“Y ffaith fod o wedi’i ailenwi’n Bridge Head, mae’r cyfieithiad yn sobor, yn wael iawn, ac wedi newid o’r Pen y Bont i’r Bridge Head.”

Y Gymraeg “yn cael ei tharo i lawr”

Er bod enw’r Pen y Bont wedi newid droeon yn y gorffennol, mae’r sefyllfa’n wahanol y tro yma, meddai, gan mai enw Saesneg ac nid enw Cymraeg gwahanol sydd ar y dafarn bellach.

“Doedd dim cymaint o ffwdan yn y gorffennol am bod yr enw yn Gymraeg.

“Y tro yma, mae’r enw Cymraeg wedi’i ddiraddio mewn gwahanol ffyrdd, sy’n rywbeth bach i rai pobol ond yn rywbeth dipyn mwy i bobol eraill.

“Dyfal donc, fel petai.

“Mae’r iaith yn cael ei tharo i lawr.

Beth yw’r ateb?

Yn ôl yr unigolyn, does neb yn yr ardal leol yn gwybod pwy yw’r perchnogion newydd.

Yr oll maen nhw’n ei wybod, meddai, yw eu bod nhw wedi’u lleoli ar ystad ym Modelwyddan.

“Mae’n amlwg fod y dyn ar gyfrifiadur, ar Facebook a ballu, ac yn ateb chwarae teg iddo fo, yn dweud, “Da iawn am nodi hwn”.

“Ond wedyn, pan ydach chi’n mynd ar wefan Companies House, mae o jyst yn cyfeirio at uned fusnes ar ystad ym Modelwyddan.

“Dw i ddim yn siŵr iawn pwy yw’r perchennog newydd, felly.

“Does dim siarad wedi bod am y peth cyn hyn, jyst bod o am gael enw newydd, “Dyma’r enw”, a dyna fo.

“Dylid fod wedi cadw’r enw fel yr oedd o, oherwydd doedd dim bod yn anghywir amdano fo.”

Newid enwau Cymraeg i Saesneg

Yn ôl yr unigolyn, mae’n “bechod” nad oes camau yn eu lle i warchod enwau Cymraeg ar dafarnau.

“Mae hi’r un peth efo enwau tai, y Gymraeg yn cael ei neilltuo a’u gwthio o’r ffordd ar gyfer enwau Saesneg,” meddai.

“Mae hynny’n fater mwy eang, ond tŷ cyhoeddus ydy hwn.

“Mae’r arwyddion wedi’u goleuo i fyny, a bydd miloedd o bobol yn ei weld o.

“Mae’n andros o bechod i dref Gymraeg gael dau dŷ tafarn wedi newid eu henwau i enwau Saesneg.

“Mae’n drist iawn, ac mae llawer o bobol yn meddwl ei fod o’n sarhaus.”

 

Seisnigo enw tafarn boblogaidd yn codi gwrychyn

Alun Rhys Chivers

Bydd hen dafarn y Pen y Bont yn Abergele yn ailagor ar Ddydd Gŵyl Dewi, ar ôl newid ei henw i’r Bridge Head