Mae angen i Brif Weinidog nesaf Cymru ddatganoli’r Gwasanaeth Sifil yng Nghymru, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Daw’r alwad ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Gwener, Mawrth 1), wrth i’r Gymdeithas alw ar ymgeisydd buddugol ras arweinyddol Llafur Cymru, a Phrif Weinidog nesaf Cymru, i flaenoriaethu datganoli swyddi gweinyddiaeth sifil o fewn Cymru yn ystod ei lywyddiaeth.

Yn ôl ffigyrau mae Cymdeithas yr Iaith wedi’u derbyn gan y Llywodraeth, dim ond lleiafrif fechan – llai na’r cyfartaledd cenedlaethol – o uwch weision sifil sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae’r mudiad wedi cwestiynu sut y gall y Gymraeg fyth fod yn fater canolog i bolisi’r Llywodraeth oni bai bod y sefydliad ei hun yn adlewyrchu sefyllfa’r Gymraeg.

Mae Jeremy Miles eisoes wedi crybwyll y syniad.

Yn ei faniffesto ar gyfer ras arweinyddiaeth Llafur Cymru, mae’n nodi “datganoli pwerau i bob rhan o Gymru a sicrhau bod y Cabinet yn treulio rhagor o amser y tu allan i Fae Caerdydd” fel un o’i amcanion.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus bod y ddau ymgeisydd yn blaenoriaethu datganoli swyddi ar bob lefel o’r Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys y rheiny sy’n creu polisi.

‘Datganoli swyddi’n angenrheidiol’

Wrth gyfeirio at y protestiadau diweddar gan ffermwyr dros Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae’r mudiad yn dadlau bod datganoli swyddi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang o gefndiroedd ymysg gweision sifil, dealltwriaeth o’r materion dan sylw, a sicrhau swyddi yn ardaloedd gwledig Cymru.

“Mae uwch weision sifil yn chwarae rôl ganolog wrth lunio polisïau ac argymhellion ar gyfer y Llywodraeth,” meddai Cai Phillips ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Y perygl gyda’r fath ganoli yng Nghaerdydd yw bod diffyg cynrychiolaeth a dealltwriaeth yn eu plith o ardaloedd eraill o Gymru, gan gynnwys cadarnleoedd y Gymraeg, yn anochel.

“Dim ond 4.7% o uwch weision sifil Llywodraeth Cymru sy’n gallu ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg, er enghraifft, ac mae 50% o’r uwch wasanaeth sifil yn gosod eu sgiliau siarad ar lefel 0, sy’n golygu dim gallu o gwbl.

“Faint o’r swyddogion sy’n gweithio ar bolisi tai y Llywodraeth sydd wedi profi effaith yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg yn sgil y farchnad agored, a faint o swyddogion sy’n gweithio ar faterion fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n deall y diwydiant amaeth?

“Mae goblygiadau hyn yn glir, bydd y Gymraeg yn parhau yn ystyriaeth ymylol ym meysydd polisi’r Llywodraeth.

“Byddai symud swyddi o Gaerdydd yn gwella dealltwriaeth y llunwyr polisi, yn gallu cynyddu democratiaeth trwy roi llais i bobl yn ogystal â darparu swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg.

“Dyna pam ddylai fod yn flaenoriaeth i Vaughan Gething yn ogystal â Jeremy Miles.”