Mae cynllun i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yn un o fwrdeistrefi Gwent wedi’i gymeradwyo.

Mae cynghorwyr wedi clywed y bydd yr ymdrechion i godi canran y siaradwyr Cymraeg yn Nhorfaen i 17% erbyn 2029 yn cynnwys pwysleisio wrth ddisgyblion ysgol fod medru’r Gymraeg yn sgil allai eu helpu nhw i gael swydd yn y sector cyhoeddus.

Er bod Torfaen yn gartref i Ysgol Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl – sydd wedi croesawu disgyblion o Sir Fynwy, Casnewydd a Blaenau Gwent ac wedi’i throi’n ysgol 3-19 oed ar ôl agor pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg – mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng.

Dangosodd Cyfrifiad 2021 fod 7,366 o siaradwyr Cymraeg yn Nhorfaen, sy’n 8.24% o’r boblogaeth – i lawr o’r 8.641 (9.84%) ddywedodd yng Nghyfrifiad 2011 eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg.

Mae Strategaeth Iaith Gymraeg bum mlynedd Cyngor Bwrdeistref Torfaen sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r nod o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn nodi mai ymhlith siaradwyr Cymraeg tair i 16 oed y bu’r gwymp fwyaf.

‘Cwymp sylweddol’

“Mae hynny’n gwymp sylweddol, er gwaetha’r ffaith ein bod ni’n hybu addysg Gymraeg ac yn cynyddu niferoedd hynny,” meddai Alan Vernon-Jones, Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor.

“Nid yn unig yn Nhorfaen, ond ledled Cymru dim ond dau awdurdod sydd wedi cynyddu nifer eu siaradwyr Cymraeg dros y ddeng mlynedd diwethaf, yn ôl Cyfrifiad 2021.”

Mae’r Strategaeth yn nodi y gallai’r gwymp fod o ganlyniad i’r ffaith nad yw’r Cyfrifiad yn gofyn am lefelau gallu, a bod “rhai yn cymryd bod y pandemig wedi effeithio ar y canlyniadau”.

Yn ôl Anthony Hunt, arweinydd y Cyngor, mae ymestyn Ysgol Gwynllyw i ysgol tair i 19 oed yn adeiladu mwy o gysylltiadau â’r gymuned, gan gynnwys darparu meithrinfa, ond roedd e’n awyddus i wybod sut mae siaradwyr Cymraeg yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r iaith ar ôl gadael y byd addysg.

“Pan fo plant yn gadael addysg Gymraeg ac yn dychwelyd i’w teuluoedd, lle nad oes sgiliau gwych o ran y Gymraeg ar yr aelwyd efallai, sut ydyn ni’n rhoi’r cyfle iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau?” gofynnodd.

‘Tocyn i wella’u hunain’

“Rhaid i ni blannu ynddyn nhw fod eu sgiliau Cymraeg yn sgil,” meddai Alan Vernon-Jones wrth ateb.

“Mae’n docyn, os liciwch chi, i wella’u hunain ac i gael mwy o gyfleoedd o fewn y sector cyhoeddus.”

Dywedodd hefyd fod y Cyngor yn cydweithio â’r Fenter Iaith i gefnogi rhieni di-Gymraeg sy’n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg, ac hefyd o ran digwyddiadau cymunedol fel bod modd i staff y Cyngor ymarfer eu Cymraeg “yn anffurfiol”.

Nododd y Cynghorydd Anthony Hunt fod canran staff y Cyngor sy’n medru’r Gymraeg wedi codi o 0.51% – pymtheg o bobol – yn 2017 i 14% (251 o bobol) yn 2021.

Graddfa sgiliau Cymraeg

Fe wnaeth y Cynghorydd Rose Seabourne groesawu’r ffaith nad yw ffurflenni cais am swyddi gyda’r Cyngor bellach yn gofyn “Ydych chi’n siarad Cymraeg?”, a bod ymgeiswyr bellach yn gallu nodi eu gallu ar raddfa.

“Dydy llawer o bobol ddim eisiau dweud eu bod nhw’n siarad Cymraeg os nad ydyn nhw’n rhugl, ond mae pa lefel ydych chi yn gwestiwn da ar ein ffurflenni cais,” meddai.

Mae’r Strategaeth wedi cael ei llunio ar sail ymgynghoriad â grwpiau iaith Gymraeg, a’i nod yw sicrhau bod polisïau’r Cyngor yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg, ei bod yn canolbwyntio ar addysg i roi hwb i nifer y siaradwyr Cymraeg, bod cyfleoedd i’r gymuned ei defnyddio, a bod gan y Cyngor weithlu sy’n gallu darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.