Mae Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, wedi lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, a diwylliant a threftadaeth Cymru.

Rôl y rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yw cefnogi pobol sy’n ymgartrefu yn ein cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am Gymru, yr iaith a’i phwysigrwydd i’r gymuned, rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fusnesau ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg, a gweithio’n lleol i gynnal a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol.

Gall unrhyw berson neu fusnes wirfoddoli i ddod yn llysgennad, a hynny drwy gwblhau modiwlau rhyngweithiol byr am hanes y Gymraeg a’i sefyllfa heddiw.

Ar ôl cwblhau’r modiwlau ar wefan Llysgennad Cymru, mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn tystysgrif, bathodyn, sticer ffenest, a phecyn gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael fel gwasanaeth cyfieithu am ddim i gymunedau, unigolion a sefydliadau trydydd sector.

Jeremy Miles yw’r Llysgennad Diwylliannol cyntaf.

‘Gwnewch y pethau bychain’

“Rwy’n falch iawn o ddod yn Llysgennad Diwylliannol a lansio’r cynllun ar Ddydd Gŵyl Dewi,” meddai Jeremy Miles.

“Gwnewch y pethau bychain’ oedd neges Dewi Sant, ac mae dod yn llysgennad yn ffordd syml ac ymarferol o gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant, helpu pobol i integreiddio i’w cymunedau newydd, croesawu ymwelwyr, a chodi ymwybyddiaeth o’n treftadaeth a’n diwylliant.

“Os ydych chi eisiau cefnogi’r Gymraeg yn eich ardal chi, neu’n gwybod am rywun delfrydol yn eich cymuned all ddod yn llysgennad, yna ewch amdani a lledaenwch y neges.”

Modiwlau lefel Efydd sy’n cael ei lansio heddiw, a bydd lefelau Arian ac Aur yn cael eu hychwanegu ar blatfform Llysgennad Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mae’r modiwlau Efydd yn cymryd tua 20 munud i’w cwblhau, a gall y llysgenhadon benderfynu beth fyddan nhw’n ei wneud i gefnogi’r Gymraeg yn eu cymunedau.