Roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio blwyddyn ‘Cymru yn India’ ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi, er mwyn cryfhau’r cysylltiadau a chyfleoedd rhwng y ddwy wlad.

Cafodd y lansiad ei gynnal gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ac Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn Uchel Gomisiwn India Llundain ac ym Mumbai ddoe (dydd Iau, Chwefror 28).

Yn ystod deuddeg mis ‘Cymru yn India’, bydd cyfres o ddathliadau’n cael eu cynnal, yn enwedig ym meysydd celf, diwylliant, addysg, iechyd, busnes a hawliau dynol.

Y gobaith yw y bydd yn helpu i feithrin cyfleoedd masnachu a buddsoddi newydd, hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol a chwaraeon, a chadarnhau cydweithrediadau academaidd a gofal iechyd.

LHDTC+ a hawliau eraill

Un ffocws allweddol ar gyfer ymweliad Eluned Morgan yw polisïau blaengar ar hawliau LHDTC+, a brwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd.

Mae’n dechrau ei hymweliad wythnos o hyd drwy gwrdd ag aelodau o’r gymuned LHDTC+, gan gynnwys trefnwyr Pride, diplomyddion, gweithredwyr priodas cyfartal a’i Uchelder Manvendra Singh Gohil, Tywysog hoyw agored cyntaf India.

Mae Cymru eisoes yn gweithio’n agos gyda llywodraeth talaith Maharashtra, sy’n gartref i 114m o bobol.

Mae’r wladwriaeth yn edrych ar sut y gall lunio’u fersiwn eu hunain o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Cymru wedi cael ei chanmol gan y Cenhedloedd Unedig am fod yr unig wlad yn y byd i ddeddfu i sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion a chyrff cyhoeddus ystyried effeithiau hirdymor eu penderfyniadau.

‘Cysylltiadau rhyfeddol’

“Mae gennym ni gymaint o gysylltiadau rhyfeddol ag India a’r cymunedau Indiaidd niferus sy’n byw yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford.

“Drwy gydol y flwyddyn hon o Gymru yn India, byddwn yn dyfnhau ein gwerthfawrogiad a’n cyd-ddealltwriaeth, gan arddangos ein partneriaethau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn a meithrin cysylltiadau newydd.

“Mae’r gyfres o ddigwyddiadau ac ymweliadau rydym wedi’u cynllunio yn anelu nid yn unig i dyfu masnach a buddsoddiad, ond i gryfhau ein cysylltiadau diwylliannol, academaidd, artistig a chwaraeon ac i ddatblygu ein huchelgeisiau gofal iechyd a llesiant.

“Mae Cymru yn India wir yn ddathliad o ddwy wlad o ddiwylliant ac arloesedd, ac edrychaf ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y rhaglen gyfoethog hon yn ei chael yn 2024 a thu hwnt.”

‘Perthynas hanesyddol ac aml-ddimensiwn’

“Mae gan India berthynas hanesyddol ac aml-ddimensiwn â Chymru, gyda phartneriaethau sy’n parhau, sydd o fudd i’r ddwy ochr ac sy’n tyfu mewn busnes, addysg, diwylliant, teithio a chwaraeon,” meddai Ei Ardderchowgrwydd Mr Vikram Doraiswami, Uchel Gomisiynydd India i’r Deyrnas Unedig.

“Yn wir, mae cymunedau Cymreig o darddiad Indiaidd wedi bod yn gyfranwyr pwysig at bresenoldeb egniol Indiaidd yng Nghymru.

“Mae blwyddyn Cymru yn India 2024 yn dathlu ein perthynas fodern ac yn anelu at gysylltu ein pobl yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

“Wrth edrych ymlaen, rydym yn croesawu partneriaethau dyfnach a chryfach er budd y ddwy ochr, gan feithrin ysbryd cydweithio mewn ymchwil ac arloesi yn enwedig mewn sectorau sy’n dod i’r amlwg.”

‘Byd teg’

“Yr wythnos hon, rwy’ wedi cadarnhau perthynas gyda’n ffrindiau Indiaidd sy’n gweithio i greu byd teg, egwyddor sy’n llywio ein holl waith llywodraeth yng Nghymru,” meddai Eluned Morgan.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’n ffrindiau Maharashtrian i ddylanwadu ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r gymuned LHDTC+ Indiaidd a’r Tywysog Manvendra Singh Gohil ar hyrwyddo hawliau hoyw, yn ogystal â chefnogi gwaith i atal trais ar sail rhywedd.

“Yfory, byddaf yn ymweld â thalaith Kerala i weld sut y gallwn gydweithio ar fargen iechyd sydd o fudd i’r ddwy ochr i ddarparu cyfleoedd lleoliad gwaith i nyrsys yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio gwneud cyhoeddiad ar hyn yn y dyddiau nesaf.”

‘Cenedl o hynafiaid da’

Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi ymuno ag Eluned Morgan ar ei hymweliad ag India.

“Mae Cymru’n falch o’i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac o ddifrif ynglŷn â’r rhwymedigaeth y mae’n ei rhoi arnom i fod yn genedl o hynafiaid da,” meddai.

“Mae angen mwy o wledydd ar y byd i ddeddfu er budd cenedlaethau’r dyfodol, os ydym am atal dinistr hinsawdd ar y cyd ac amddiffyn y bobol hynny sydd ar ben eithaf ei effeithiau.

“Bydd y genhadaeth hon gaiff ei rhannu gyda Maharashtra yn ystod Blwyddyn Cymru yn India yn caniatáu i’r ddwy wlad weithio gyda’i gilydd er mwyn pobol sydd heb eu geni eto, i rannu’r hyn gafodd ei ddysgu ar weithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chefnogi arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol i weithredu nawr ar gyfer gwell yfory.”

Ei Dyfodol Hi

Mae Urdd Gobaith Cymru yn rhan o ddirprwyaeth Eluned Morgan i hyrwyddo Her Future Coalition, elusen sy’n gweithio i frwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd.

“Rydym yn falch iawn o fod yn cychwyn ar y daith hon gyda Her Future Coalition, gan fod eu hymrwymiad diwyro i ferched ifanc bregus yn wirioneddol ysbrydoledig,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Cafodd ein prosiect #FelMerch ei lansio am y tro cyntaf i rymuso merched ifainc Cymru, ac rydym yn llwyr gefnogi gwaith Her Future Coalition i greu newid parhaol yn India.

“Ugain mlynedd yn ôl, sefydlodd yr Urdd bartneriaeth gyda dinas ac elusennau Kolkata.

“Edrychwn ymlaen at ailafael yn ein rhaglenni gwirfoddoli rhyngwladol drwy fynd â grŵp o lysgenhadon ifanc i India yn ddiweddarach eleni i gefnogi rhaglenni a mentrau Her Future Coalition.

“Rydyn ni nid yn unig yn mynd i India i rannu gwybodaeth, ond hefyd i ddysgu a chael ein hysbrydoli gan eu gwytnwch, eu positifrwydd a’u creadigrwydd a sut, yn wyneb adfyd, maen nhw’n creu llwybrau hunangynhaliol ar gyfer eu dyfodol.”

  • I gael y newyddion diweddaraf a diweddariadau ar Gymru yn India, dilynwch @WalesInIndia ar X (Twitter gynt) a Wales in India ar LinkedIn.