Mae Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru.

Gwnaeth hi’r ymrwymiad yn ystod taith i Ddulyn ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

Mae gan y Cyd-ddatganiad chwe maes cydweithio, ac mae’n cynnwys ymrwymiad gan y ddwy wlad i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i rannu arferion da.

Fe wnaeth Jane Hutt gyfarfod â Joe O’Brien, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Datblygu Gwledig a Chymunedol a’r Adran Amddiffyn Cymdeithasol yn Iwerddon, i drafod sut y gellid parhau i gryfhau cysylltiadau rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon.

Yn ystod ei hymweliad â phrifddinas Iwerddon, bu Jane Hutt mewn nifer o ddigwyddiadau diwylliant a busnes, gan gynnwys derbyniad Dydd Gŵyl Dewi gyda phartneriaid o bob rhan o Lywodraeth, diwydiant, addysg a diwylliant Iwerddon, yn ogystal â chymuned y Cymry ar wasgar.

Yn ystod ei hamser yn Nulyn, fe wnaeth hi gyfarfod â Chyngor Ieuenctid Cenedlaethol Iwerddon a dau o’u Cynrychiolwyr Ieuenctid Hinsawdd, Oileán Carter Stritch a Jennifer Salmon, sy’n ceisio meithrin perthynas â thîm Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.

ICON

Bu’n cyfarfod hefyd ag uwch-swyddogion gweithredol o’r sefydliad ymchwil glinigol blaenllaw ICON, sydd wedi bod yn buddsoddi yng Nghymru ac yn ehangu eu gweithlu yn Abertawe.

Mae’r cwmni wedi bod yn tyfu ei weithlu yn Abertawe dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac maen nhw’n meithrin cysylltiadau cryfach â phrifysgolion yng Nghymru gan eu bod nhw’n ceisio cyflogi rhagor o raddedigion a llenwi rolau sgiliau uchel yn y sector gwyddorau bywyd.

Bu Janes hefyd yn cyfarfod â Conor Falvey, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol â chyfrifoldeb am y Celfyddydau a Diwylliant, a Nadia Feldkircher, Prif Ymchwilydd ar gynllun peilot Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon, i drafod cryfderau a heriau cynlluniau o’r fath.

Mae gan bob cynllun peilot gynulleidfa darged wahanol ym mhob gwlad benodol.

Mae cynllun peilot Llywodraeth Cymru ar gyfer Incwm Sylfaenol i Bobol Ifanc sy’n Gadael Gofal wedi’i dargedu at garfan o tua 630 o bobol ifanc sy’n gadael gofal, a bydd yn dod i ben yn 2025.

Blwyddyn o hyd oedd y cyfnod cofrestru ffurfiol ar gyfer y cynllun peilot ddaeth i ben ar Fehefin 30 y llynedd.

Mae gwerthusiad o’r cynllun peilot yn parhau. Cafodd dadansoddiad ystadegol o’r garfan a gofrestrodd ei gyhoeddi y llynedd, gyda’r adroddiad gwerthuso cyntaf wedi’i gyhoeddi fis diwethaf.

Dros gyfnod o dair blynedd hyd at Ebrill 2025, bydd cynllun peilot Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon yn archwilio effaith incwm sylfaenol ar artistiaid a’r rhai sy’n gweithio yn y celfyddydau creadigol.

Caiff taliadau o €325 yr wythnos eu gwneud i 2,000 o artistiaid a gweithwyr celfyddydau creadigol cymwys gafodd eu dewis ar hap ac a gafodd eu gwahodd i gymryd rhan.

Bu’r Gweinidog a’r prif swyddog yn trafod cryfderau a heriau cynlluniau Incwm Sylfaenol, yn ogystal â’r hyn y gellid ei ddysgu gan ei gilydd am y priod gynlluniau.

‘Braint’

“Mae wedi bod yn fraint ailddatgan ein hymrwymiad i’r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25 yn ystod fy nghyfnod yn Nulyn,” meddai Jane Hutt.

“Mae Dydd Gŵyl Dewi wedi bod yn gyfle perffaith i arddangos ein diwylliant dramor, gan ymgysylltu â chymuned y Cymry ar wasgar.

“Rydym wedi ymrwymo i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac i rannu arferion da, gan gynnwys drwy gynlluniau Incwm Sylfaenol a Chomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol.”

‘Perthynas glòs’

“Mae’r dathliad Dydd Gŵyl Dewi yma yn Nulyn, a’r dathliad Dydd Sant Padrig fydd yng Nghaerdydd yn ddiweddarach yn y mis, yn dangos y berthynas glòs sy’n datblygu, wedi’i hadeiladu ar y cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol dwfn rhwng y ddwy wlad,” meddai Joe O’Brien o Lywodraeth Iwerddon.

“Rydym wedi ymrwymo, gan gynnwys drwy’r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru, ac ymweliad y Gweinidog heddiw, i ddod â Chymru ac Iwerddon yn agosach at ei gilydd, gan ddyfnhau ein cydweithrediad a chryfhau cysylltiadau.”