Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae Mark Drakeford wedi annog y genedl “i wneud y pethau bychain”.

Yn ei neges olaf ar ŵyl ein nawddsant cyn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog, mae e’n sylw at yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd.

Dywed hefyd fod lle i bawb fod yn fwy caredig i’w gilydd.

“Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd pobl ym mhob cwr o Gymru a dros y byd i gyd yn dathlu Cymru a Chymreictod,” meddai.

“Ar ein diwrnod cenedlaethol, rydyn ni am wneud y pethau bychain, fel Dewi Sant ei hunan, i helpu i wella bywydau pobl eraill.

“Gwlad y gân yw Cymru, ond mae gofalu am bobl eraill a bod yn gymwynasgar yn rhan yr un mor greiddiol o bwy ydyn ni fel Cymry.

“Ac yn y cyfnod ansicr hwn, gallwn ni i gyd fod ychydig yn fwy caredig, a gwneud y pethau bychain.

“Rydyn ni’n falch o’n gwerthoedd. Mae Cymru’n wlad agored a goddefgar.

“Mae gennym ni gymunedau agos, sydd wedi’u hadeiladu ar seiliau cadarn o barchu cyfiawnder a thegwch cymdeithasol.”

Arloesedd

Mae’r Prif Weinidog yn mynd yn ei flaen i ganmol arloesedd y Cymry, a’n gallu i feithrin syniadau.

“Ond mae Cymru hefyd yn gartref i fusnesau byd-eang,” meddai.

“Yma, rydyn ni’n meithrin syniadau, ac yn annog pobl i greu a thorri tir newydd.

“Diolch i’r Gymraeg, a’n hanes a’n diwylliant cyfoethog, heb sôn am ein mynyddoedd mawreddog, ein harfordir trawiadol a’n dinasoedd bywiog, mae gan Gymru rywbeth unigryw i’w gynnig i weddill y byd.

“Ar Ddydd Gŵyl Dewi, felly, gadewch inni sefyll yn hyderus ar y llwyfan rhyngwladol a dangos ein gwlad ar ei gorau.

“Dyma fy neges Gŵyl Dewi olaf fel eich Prif Weinidog.”

‘Croesawu pawb’

Ychwanega fod Cymru’n wlad sy’n croesawu pawb.

“Ond byddwn ni’n dal ati i weithio dros Gymru gryfach, decach a gwyrddach, gan adael neb ar ôl,” meddai.

“Mae Cymru’n wlad sy’n rhoi croeso i bawb.

“Mae Cymru’n wlad lle y gall ein plant lwyddo a chyrraedd y nod, heb orfod meddwl am ymadael â hi.

“Ble bynnag rydych chi’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, gwnewch rywbeth bychan i godi calon rhywun arall.

“Ac felly, am y tro olaf fel y Prif Weinidog, ga’ i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus ichi i gyd.”