Mae’r bleidlais ar gyfer arweinydd nesaf Llafur Cymru bellach wedi cau, bron i fis wedi iddi agor ar Chwefror 16.

Daeth y cyfnod pleidleisio i ben am hanner dydd heddiw (dydd Iau, Mawrth 14), ac mae’r ddau ymgeisydd wedi diolch ar y cyfryngau cymdeithasol i’r rhai fu’n pleidleisio.

“Gyda’r pleidleisiau bellach wedi cau, cyn cyhoeddi’r canlyniad ddydd Sadwrn yma, rydw i eisiau dweud diolch enfawr i bawb sydd wedi cymryd rhan,” meddai Vaughan Gething yn ei neges ar X [Twitter gynt].

Neges debyg oedd gan Jeremy Miles hefyd.

Beth nesaf?

Mae disgwyl i ganlyniad y bleidlais gael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn (Mawrth 16), ond fydd yr arweinydd newydd ddim yn dechrau yn ei rôl yn syth.

Bydd Mark Drakeford, y Prif Weinidog presennol, yn cymryd rhan yn ei sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog olaf yn y Senedd ddydd Mawrth (Mawrth 19).

Yn dilyn hyn, mae disgwyl y bydd Mark Drakeford yn ysgrifennu at Frenin Lloegr yn cynnig ymddiswyddo o’i rôl.

Cyn trosglwyddo i’r arweinydd nesaf, bydd yn rhaid cynnal pleidlais yn y Senedd, lle gallai’r gwrthbleidiau gyflwyno’u hymgeiswyr eu hunain.

Fodd bynnag, gan mai Llafur yw’r blaid fwyaf gyda hanner y seddi, mae’n annhebygol y byddai unrhyw grŵp arall yn cymryd y rôl.

Wedi’r bleidlais, bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi gan Elin Jones, Llywydd y Senedd, fydd yn ysgrifennu at Frenin Lloegr wedyn er mwyn argymell bod yr unigolyn yn cael ei benodi.

Bydd y Prif Weinidog newydd yn cymryd drosodd cyn gynted ag y bydd y Brenin yn rhoi ei sêl bendith.

Y bleidlais

Dim ond rhyw 100,000 o bobol oedd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad, gan gynnwys aelodau’r Blaid Lafur ac undebau llafur neu undebau cysylltiedig.

Er mai Jeremy Miles oedd wedi ennyn cefnogaeth y rhan fwyaf o Aelodau Llafur o’r Senedd, llwyddodd Vaughan Gething i dderbyn cefnogaeth yr undebau llafur mawr, gan gynnwys Uno’r Undeb ac Unsain.

Bu ychydig o anghydfod ynglŷn â hyn, ar ôl i Jeremy Miles ddweud ei fod wedi cael gwybod ar yr unfed awr ar ddeg nad oedd yn gymwys i dderbyn cefnogaeth Uno’r Undeb oherwydd “rheol doedd neb yn gwybod oedd yn bodoli”.

Mae sylwebyddion gwleidyddol yn awgrymu mai Vaughan Gething fydd yn fuddugol.