Mae rhannau’r ymchwiliad Covid-19 sy’n cael eu cynnal yng Nghymru wedi dod i ben heddiw (dydd Iau, Mawrth 14), ar ôl i’r rhai sy’n ei gynnal dreulio tair wythnos yng Nghaerdydd.
Ar ddiwrnod olaf y rhan hon o’r ymchwiliad, cafodd datganiadau clo eu rhoi gan rai o brif dystion yr ymchwiliad yng Nghymru.
Yn eu plith roedd Kirsten Heaven, cynrychiolydd ar gyfer Teuluoedd mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru.
Gofynnodd i’r ymchwiliad fod yr holl negeseuon WhatsApp gafodd eu hanfon rhwng gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig yn cael eu cyhoeddi.
“Mae Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro wedi osgoi arolygiad gronynnog o’r broses gwneud penderfyniadau yng Nghymru drwy wrthod craffu mewn ymchwiliad sy’n benodol i Gymru, gan geisio rhoi’r bai ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn lle hynny,” meddai.
“Mae hefyd yn destun gofid fod yr ymchwiliad hwn, ac yn wir y modiwl hwn, wedi cael eu gorfodi i dreulio cymaint o amser yn holi am dystiolaeth goll a dinistrio negeseuon WhatsApp.”
Daw hyn ar ôl i’r ymchwiliad glywed sawl gwaith fod negeseuon WhatsApp gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a’r cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi eu colli neu eu dileu.
Ychwanegodd nad yw hi’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu unrhyw beth o’u camgymeriadau.
“Ym mhob un o’r modiwlau eraill rydych chi wedi clywed rhywfaint o fyfyrdod a rhywfaint o dderbyn bod camgymeriadau wedi’u gwneud ac mae’n destun pryder mawr i’r rhai sy’n galaru yng Nghymru nad yw eu llywodraeth yn ymddangos i allu gwneud yr un peth,” meddai.
“Dylai hyn godi pryder gwirioneddol nad yw gwersi wedi’u dysgu yma yng Nghymru mewn gwirionedd.”
Cymru’n “rhy fach”
Un arall roddodd ddatganiad yw Danny Friedman ar ran Anabledd Cymru.
Dywedodd fod Cymru yn “rhy fach, o ran y pŵer oedd ganddi a’i gallu i wneud pethau’n wahanol” yn ystod y pandemig.
Ychwanegodd ei bod yn rhy fach hefyd “i beidio â chael ei chymryd yn ganiataol gan San Steffan”.
“Y canlyniad oedd fod Cymru’n cael gwybod am benderfyniadau yn hytrach nag yn cael ei chynghori arnyn nhw sawl gwaith,” meddai.
Beirniadodd y gwaith o gasglu data iechyd ar gyfer pobol anabl, gan ychwanegu nad oedd hawliau anabledd “wedi’u gwreiddio mewn prosesau gwneud penderfyniadau” wrth gynllunio at argyfwng.
Hefyd ymysg y rheiny roddodd ddatganiadau mae Adam Straw, cynrychiolydd Hawliau Gofal y Deyrnas Unedig, oedd wedi dweud bod preswyliaid cartrefi gofal wedi cael eu “hesgeuluso’n aml” wrth adael yr ysbtyy i ddychwelyd i’w cartrefi gofal.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o’r pryderon, ond nad oedden nhw wedi gweithredu.
‘Ymateb gwell a chynt’
Ychwanegodd David Gardner, cwnsler Comisiynydd Plant Cymru, fod diffyg cynllunio cynnar ac nad oedd lleisiau plant wedi cael eu hystyried yn ystod y pandemig.
Dywedodd fod penderfyniadau i gau ysgolion wedi’u gwneud heb gyngor cyfreithiol, tra nad oedd hawliau plant wedi cael eu hystyried bob amser.
Rhoddodd Robin Allen, cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ddatganiad hefyd, gan ddweud y dylai’r gwaith ymgysylltu fod wedi bod yn well ac yn gynt.
Dywedodd hefyd fod angen mwy o ymddiriedaeth mewn llywodraeth leol yn y dyfodol.
Bydd yr ymchwiliad yn dychwelyd i Lundain i gynnal y gwrandawiad cyntaf ar gyfer yr ymchwiliad i’r sector gofal ar draws y Deyrnas Unedig.
Does dim disgwyl y bydd yr ymchwiliad yn dychwelyd i Gymru.
Mae disgwyl i’r gwrandawiadau ddod i ben yn 2026.