Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi’r diwydiant bysiau yng Nghymru, gyda buddsoddiad o £39m ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn ôl Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Caiff y cyllid ei ddarparu drwy Grant Rhwydwaith Bysiau newydd fydd yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau pan ddaw’r cronfa bontio ar gyfer Bysiau i ben ddydd Sul (Mawrth 31).

Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau newydd yn dechrau ar Ebrill 1, ac yn para blwyddyn.

Er mwyn derbyn y cyllid, bydd yn rhaid bodloni amodau personol gan gynnwys sicrhau bod llwybrau ac amserlenni’n gwella amserau teithio, creu cyfleoedd i wella cysylltiadau lle mae modd gwneud hynny, a gwella’r wybodaeth am amserau gwasanaethau bws.

“Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau yn dod â sefydlogrwydd i’r diwydiant yn ogystal â mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bysiau,” meddai Lee Waters.

“Bydd hefyd yn gweithredu fel pont o’r arian argyfwng sydd wedi’i roi ar gyfer masnachfreinio bysiau.

“Bydd y grant yn cynnwys amodau penodol a fydd yn annog cydlynu gwasanaethau bysiau rhanbarthol yn well; tocynnau rhwydwaith a sicrhau gwybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaethau bysiau sy’n cael eu darparu.”

Diwygio’r system

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i newid y ffordd mae bysiau’n cael eu rhedeg yng Nghymru.

Bydd Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno yn y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac mae’r manylion ar gyfer y broses o ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru eisoes wedi eu cyhoeddi.

Dywed Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru, y bydd masnachfreinio bysiau’n golygu bod rhwydweithiau bysiau lleol a rhanbarthol yn cael eu dylunio i ddiwallu anghenion cymunedau.

“Bydd hefyd yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gysylltu llwybrau bysiau ag amserlenni trenau a chreu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gydag un tocyn y gellir ei ddefnyddio ar y ddau,” meddai.

Bysiau ysgol am ddim?

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Argymhellion Teithio i Ddysgwyr 2023.

Mae’r adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion i helpu i wella cysondeb, ansawdd a diogelwch y ddarpariaeth deithio i ddysgwyr ledled Cymru.

Dywed Lee Waters mai tua £160m y flwyddyn yw’r gost o redeg y bysiau ysgol ar hyn o bryd, a’i bod wedi cynyddu’n sylweddol.

“Byddai darparu teithiau am ddim i ragor o ddisgyblion wrth reswm yn ychwanegu at y bil hwnnw yn sylweddol ar adeg o doriadau gwerth £1.2bn yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Yn ein barn ni, mae bysiau ysgol yn rhan bwysig iawn o’n cynlluniau i ddod â bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus, gan gysylltu trafnidiaeth ysgol â gwasanaethau rheolaidd a buddsoddi mewn bysiau modern sy’n hygyrch i bawb.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, credwn y gallwn feithrin diwylliant cymdeithasol, amgylcheddol a chynaliadwy o deithio cyfrifol i’r ysgol.”