Mae amcanion Cymraeg 2050, a Chynllun Gweithredu 2024-25, yn gwbl glodwiw: cynyddu nifer siaradwyr, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chreu amodau ffafriol i’r iaith.
Mae’n glir bod arian yn cael ei roi i Fudiad Meithrin ac i sefydlu ysgolion Cymraeg, i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i gyrff eraill. Mae gwaith da’n cael ei wneud ym mhob rhan o Gymru, ac ymdrechion selogion y Gymraeg yn cael cefnogaeth y Llywodraeth, o’r diwedd.
Categoreiddio Ysgolion Cyfeiliornus
Mae materion yn y Cynllun Gweithredu sydd yn peri gofid. Nid y lleiaf yw bod y Bil Addysg Gymraeg yn mynd i ddefnyddio canllaw categoreiddio ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r Canllaw, gwaetha’r modd, yn gawdel llwyr ym maes addysg uwchradd. Er bod un categori teilwng i ysgolion penodedig Cymraeg, lle caiff pob disgybl o leiaf 90% o’i brofiadau addysgol trwy’r Gymraeg, mae’r categori nesaf yn caniatáu i 40% o’r disgyblion dderbyn eu holl addysg trwy’r Saesneg. Mae’r Categori hwn – Categori 3 – wedi ei dderbyn, mae’n debyg, gan Gyngor Gwynedd a Môn, a oedd am ddewis categori gwannach fyth. Mae hyn yn dipyn o lol, gan fod mwyafrif ysgolion Gwynedd yn dilyn llwybr mwy Cymraeg na hyn, a phrin yw’r ysgogiad i gryfhau os bydd Categori 3 yn rhan o’r bil addysg.
Mae’n annhebygol y bydd y bil addysg yn sefydlu trefn fonitro i wybod yn union beth yw cyfrwng dysgu’r gwahanol bynciau yn y sector uwchradd. Cawsom wybod gan Wynedd nad oes syniad ganddyn nhw, ac rydyn ni ar hyn o bryd yn ceisio tynnu’r wybodaeth allan o gorff Cymwysterau Cymru. Mae angen i’r bil addysg gynnwys y mesurau gofal yma er mwyn i addysg Gymraeg gryfhau.
Addysg bellach, Cymraeg yn y teulu, Safonau’r Gymraeg
Oes materion eraill yn peri gofid? Hen ddigon, mae raid. Oes cyfran deg o’r arian y mae’r Llywodraeth yn ei roi i’r Coleg Cymraeg i hyrwyddo’r Gymraeg mewn addysg bellach yn cael ei gynnig i ddosbarthiadau chweched ysgolion Cymraeg? Mae cryfhau ac ehangu’r ddarpariaeth yn yr ysgolion Cymraeg yn hanfodol rhag i’r cyllid i’r Gymraeg gael ei lastwreiddio.
Mae modd holi am sawl agwedd arall o’r Cynllun Gweithredu. Popeth yn dda am “gefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda’u plant”, ond sawl aelod sydd yn nhîm y Llywodraeth sy’n delio â hyn? Dw i ddim am wadu na bychanu’r gwaith mae staff ymroddedig is-adran y Gymraeg (Cymraeg 2050) yn ei wneud, ond onid yw hi’n hen bryd i ni gael corff cynllunio statudol sy’n meddu ar arbenigedd, gweledigaeth ac adnoddau i greu rhaglen drawsnewidiol i sicrhau ffyniant y Gymraeg?
Popeth yn dda am hyrwyddo Safonau’r Gymraeg, ond mae sawl enghraifft ddiweddar o gwmnïau masnachol, banciau’n arbennig, yn anwybyddu’r Gymraeg yn llwyr ac fel polisi bwriadol, am nad yw’r Safonau’n berthnasol iddyn nhw. Efallai bod cyfnod y dylanwadu cyfeillgar yn dod i ben. Mae’n bryd i’r sector busnes ddod yn rhan o’r Safonau. Cawsom wybod gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg (llythyr 8 Chwefror 2024 at Dylan Roberts) nad yw’n fwriad ganddo i gymryd camau fydd yn trawsnewid hyn. Mae’r broses o enwi sectorau a chyrff hefyd yn affwysol o ara deg – deunaw mis ar gyfartaledd. Rhaid wrth fecanwaith llawer mwy ystwyth lle gall y Comisiynydd Iaith ei hunan bennu cyrff yn hytrach na Llywodraeth a Senedd Cymru. Gweithiodd hynny yn effeithiol a di-lol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Wrth ei gweithredoedd…
Ôl-nodyn:
“Cawsom wybod gan Wynedd nad oes syniad ganddyn nhw, ac rydyn ni ar hyn o bryd yn ceisio tynnu’r wybodaeth allan o gorff Cymwysterau Cymru.”
Wrth ymateb, dywed Cymwysterau Cymru nad nhw fyddai’n gyfrifol am ddarparu’r wybodaeth honno.