Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i gefnogi myfyrwyr i astudio yng Nghymru, yn hytrach na’u hannog i astudio mewn prifysgolion tu allan i’r wlad, yn ôl Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu Cynllun Gweithredu 2024-25 ar gyfer eu hamcanion Cymraeg 2050 ddoe (dydd Mercher, Mawrth 13).
Yn ôl Heini Gruffudd, mae’n bryder mai ailadrodd hen ffigyrau mae rhannau o’r cynllun gweithredu mewn gwirionedd, ac nad oes “dim newydd” o ran y strategaeth twf addysg Gymraeg.
“Ar 12 Gorffennaf 2022 cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg bod cynlluniau ar y gweill i sefydlu 23 ysgol Gynradd Gymraeg newydd ac i gynyddu capasiti 25 ysgol Gymraeg arall erbyn 2031,” meddai wrth golwg360.
“Nid yw’r cynllun gweithredu 2024 – 2025 ond yn ailadrodd yr hen ffigyrau hyn.
“Mae hyn yn golygu y bydd un ysgol Gymraeg newydd ar gyfartaledd ym mhob awdurdod addysg yng Nghymru – un yr un mewn deng mlynedd, sy’n llawer rhy fach i wneud y gwahaniaeth mawr angenrheidiol.”
Er hynny, dywed ei bod yn glir o’r cynllun fod yna fuddsoddiad mewn addysg Gymraeg, a hynny drwy fuddsoddi yn y Mudiad Meithrin, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chyrff eraill.
“Mae gwaith da’n cael ei wneud ym mhob rhan o Gymru, ac ymdrechion selogion y Gymraeg yn cael cefnogaeth y Llywodraeth, o’r diwedd,” meddai.
‘Angen hyfforddi 1,000 o athrawon’
Dywed Heini Gruffudd fod Dyfodol i’r Iaith eisoes wedi herio ffigyrau Llywodraeth Cymru ac wedi llunio’u hamcangyfrif eu hunain o’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg tebygol erbyn 2050, pe bai’r twf yn parhau ar yr un raddfa.
“Er mwyn cyrraedd y nod o gael 30% o blant cynradd mewn addysg Gymraeg erbyn 2030, byddai angen hyfforddi 1,000 yn rhagor o athrawon – dyna ffigurau’r Llywodraeth ei hun yn Cymraeg 2050,” meddai wedyn.
Ychwanega fod angen twf o ryw 3,000 o ddisgyblion cynradd y flwyddyn hefyd.
“Hyd yn oed o ddyblu’r twf mae’r Cynllun Gweithredu yn ei amcanu, ein hamcan yw na fyddai modd cyrraedd mwy na 750,000 o siaradwyr erbyn 2050,” meddai.
“Bydd cynlluniau presennol y Llywodraeth yn methu’r targed hwn o gryn bellter, heb sôn am filiwn o siaradwyr.”
Yn ôl Heini Gruffudd, chafodd Dyfodol i’r Iaith “ddim ymateb gwirioneddol” i’r dadansoddiad wnaethon nhw ei ddanfon at Lywodraeth Cymru.
‘Truenus o ddigyfeiriad’
Yr “eliffant yn yr ystafell”, yn ôl Heini Gruffudd, yw sut mae dod o hyd i’r holl athrawon sydd eu hangen er mwyn diwallu’r anghenion.
Dywed fod y Cynllun Gweithredu yn “druenus o ddigyfeiriad”, wrth nodi eu cynllun i “barhau i weithredu” pan ddaw i’r gweithlu addysg.
“Mae ffigurau diweddar wedi dangos eto bod hanner myfyrwyr Cymru’n mynd y tu allan i Gymru i gael eu haddysg prifysgol,” meddai.
“Dydyn nhw ddim, felly, yn mynd i astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd unrhyw gwrs hyfforddi a gânt yn anwybyddu’r iaith, ac wrth gwrs, yr ofn mawr yw bod cyfran dda ohonyn nhw’n aros i fyw y tu allan i Gymru.
“Does dim gwybodaeth gan y Llywodraeth am nifer y myfyrwyr sy’n dychwelyd i Gymru.”
Annog myfyrwyr i adael?
Yn ôl Heini Gruffudd, mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rôl wrth annog myfyrwyr i symud allan o Gymru mewn sawl ffordd.
“Un yw’r Academi Seren, sy’n annog y myfyrwyr mwyaf disglair i astudio ym mhrifysgolion y Grŵp Russell, y mae’r rhan fwyaf ohonynt y tu allan i Gymru,” medai.
“Herion ni’r Gweinidog i newid y polisi hwn, ond mae ei ymateb wedi nodi fwy nag unwaith ei fod am lynu wrth y cynllun hwn, ac am roi rhyddid i fyfyrwyr fynd i astudio ble y mynnant.”
Er nad yw Heini Gruffudd eisiau gwrthwynebu’r rheiny sy’n dewis derbyn addysg mewn rhannau eraill o’r byd, dywed y dylai fod mwy o gymhelliant ariannol i aros yng Nghymru i astudio.
Awgryma y dylai’r Llywodraeth ddilyn yn ôl troed yr Alban, lle mae addysg bellach am ddim, neu Ogledd Iwerddon, lle mae’r llywodraeth yn talu hanner y ffi.
“Mae’r Llywodraeth yn talu hanner biliwn o bunnoedd i fyfyrwyr Cymru astudio y tu allan i’w gwlad, trwy gostau cynhaliaeth a ffioedd dysgu’n bennaf, arian y byddai prifysgolion Cymru’n falch o’i gael,” meddai.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw’n gweithio ar Fil Addysg Gymraeg fydd yn “cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus drwy’r system addysg statudol”.
“Rydyn ni’n falch o Academi Seren sy’n cefnogi’r dysgwyr gorau yng Nghymru, waeth beth fo’u cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol neu leoliad, i fynychu prifysgolion gorau’r byd – gan gynnwys prifysgolion yma yng Nghymru,” meddai.
“Rydyn ni hefyd yn falch o ariannu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cynnig darpariaeth addysg bellach ac uwch drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.”