Fe fydd yr ymchwiliad Covid-19 yng Nghymru yn dod i ben heddiw (dydd Iau, 14 Mawrth).

Mae disgwyl i dimau cyfreithiol grynhoi’r dystiolaeth yn ystod y dydd.

Y Prif Weinidog Mark Drakeford oedd yr olaf i roi tystiolaeth ddoe (13 Mawrth) gan ddweud wrth yr ymchwiliad: “Dw i ddim yn honni ein bod wedi cael popeth yn iawn.”

Mae hefyd wedi gwadu honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n wahanol i Lywodraeth San Steffan am ddim rheswm penodol.

Dros y tair wythnos ddiwethaf mae’r ymchwiliad yng Nghaerdydd wedi clywed nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i ddelio gyda pandemig, bod nifer o benderfyniadau anghywir wedi cael eu gwneud gan gynnwys canslo digwyddiadau mawr yn rhy hwyr, diffyg profion ar gleifion wrth iddyn nhw gael eu symud o’r ysbyty i gartrefi gofal, a hyd y cyfnod clo.

Mae’r ymchwiliad hefyd wedi clywed sut yr oedd swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi defnyddio WhatsApp i drafod beth oedd yn digwydd, oedd yn mynd yn groes i reolau’r Senedd. Cafodd negeseuon eu dileu yn ddiweddarach – oedd hefyd yn mynd yn groes i’r rheolau o gadw cofnodion priodol.

Yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd, mae’r ymchwiliad wedi clywed gan arbenigwyr, gwyddonwyr, gweision sifil a phennaeth y tîm o ymgynghorwyr arbennig, fu’n cynghori Mark Drakeford yn ystod y pandemig.