Fe fydd Dŵr Cymru yn gorfod talu bron i £40 miliwn mewn iawndal ar ôl camarwain corff arolygu’r diwydiant Ofwat.

Roedd ymchwiliad wedi datgelu bod y cwmni wedi camadrodd ffigurau a chamarwain ynglŷn â gollyngiadau dros gyfnod o bum mlynedd.

Mae Ofwat bellach wedi gorchymyn bod Dŵr Cymru yn talu £39.4m mewn iawndal i gwsmeriaid.

Mae £15m eisoes wedi cael ei gyhoeddi gan Dŵr Cymru, a bydd £9.4m yn dilyn gyda biliau cwsmeriaid yn gostwng.

Fe fydd £15m arall yn cael ei roi i gwsmeriaid, yn ôl Ofwat.

Daw hyn ar ôl perfformiad gwael y diwydiant dŵr o ran gollyngiadau, gollyngiadau carthffosiaeth amrwd, a gwasanaeth cwsmeriaid gwael.

‘Camarwain cwsmeriaid’

“Am bum mlynedd, mae Dŵr Cymru wedi camarwain cwsmeriaid a rheoleiddwyr ar ei record o fynd i’r afael â gollyngiadau ac arbed dŵr,” meddai David Black, Prif Weithredwr Ofwat.

“Yn syml, mae’n anesgusodol a dyna pam rydyn ni’n gorfodi Dŵr Cymru i dalu’r £40m hwn er budd ei gwsmeriaid.

“Mae cyhoeddiad heddiw yn rhoi rhybudd i’r diwydiant bod gennym ni’r adnoddau ac y byddwn ni’n gweithredu pan fydd cwmnïau’n methu â chyflawni eu rhwymedigaethau i gwsmeriaid.”

Dŵr Cymru yn ymddiheuro

Mae Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru, wedi ymddiheuro am y methiannau, ac wedi dweud y bydd yn buddsoddi mwy i fynd i’r afael a gollyngiadau.

“Mae’n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd,” meddai.

“Mae prif gasgliadau Ofwat ynghylch yr hyn aeth o’i le yn cyd-fynd â’n hymchwiliadau ein hunain a rannwyd ag Ofwat ynghyd â’n cynigion ar gyfer gwneud iawn i gwsmeriaid a buddsoddiad ychwanegol i fynd i’r afael â gollyngiadau. Mae ad-daliadau eisoes wedi’u rhoi i 1.4 miliwn o gwsmeriaid.

“Bydd cyflawni’r gostyngiad arfaethedig mewn gollyngiadau yn heriol, ond rydym wedi ymrwymo cynnydd sylweddol mewn gwariant yn y maes hwn ac wedi cryfhau’r timau gweithredol perthnasol i wella ein perfformiad.”

‘Hen bryd’

Mae’n “hen bryd” bod Ofwat wedi beirniadu Dŵr Cymru, yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Dw i’n croesawu’r datganiad hwn gan Ofwat, sy’n gosod cynsail cryf yn erbyn camweithreoedd Dŵr Cymru yn y dyfodol,” meddai.

“Am yn rhy hir rŵan, mae Dŵr Cymru wedi cael camarwain eu cwsmeriaid heb unrhyw arlliw o gosb.

“Mae’n hen bryd bod y math yma o gam yn cael ei gymryd.

“Gadewch i ni beidio anghofio mai dyma’r cwmni sydd wedi methu droeon â sichrau bod ein dyfroedd yn aros yn lân rhag llygredd niweidiol.

“Dyma’r cwmni hefyd welodd yn dda i dalu £332,000 i’w pennaeth yn 2022, tra bod aelwydydd di-ri’n wynebu biliau dŵr andros o uchel.

“Mae’r dystiolaeth yn glir.

“Yn ei gyflwr presennol, dydy safon Dŵr Cymru ddim yn ddigon da.

“Ymchwiliad annibynnol llawn a chynhwysfawr ydy’r unig ffordd ymlaen er mwyn datrys y llanast yma.”