Mae pleidiau annibyniaeth Catalwnia’n gwrthod clymbleidio â’r Sosialwyr, wrth i drigolion baratoi i bleidleisio yn yr etholiad ar Fai 12.

Dywed Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, mai ei flaenoriaeth yw ffurfio llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth, a’i fod yn gobeithio y bydd modd i’w blaid, Esquerra, ddod i gytundeb â Junts per Catalunya.

Ond mae’n rhybuddio ar yr un pryd fod Junts wedi gadael y glymblaid ddiwethaf yn gynnar.

Tra bod Junts per Catalunya ac Esquerra o blaid annibyniaeth, mae’r Sosialwyr yn blaid unoliaethol sy’n awyddus i Gatalwnia aros yn rhan o Sbaen.

Dywed Junts na fyddan nhw’n cefnogi Salvador Illa, ymgeisydd y Sosialwyr, i fod yn arweinydd nesa’r wlad, a fyddan nhw ddim yn ceisio dod i gytundeb â’r Sosialwyr i gefnogi eu hymgeisydd nhw eu hunain i fod yn arlywydd.

Carles Puigdemont am ddychwelyd?

Yn y cyfamser, mae’n bosib y gallai Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia fu’n byw’n alltud yng Ngwlad Belg, sefyll i fod yn arlywydd yn enw Junts per Catalunya unwaith eto.

Ond mae ei ymgeisyddiaeth yn ddibynnol i raddau helaeth ar basio’r Bil Amnest, fyddai’n rhoi pardwn i’r arweinwyr fu’n rhan o ymgyrch annibyniaeth Catalwnia oedd yn cael ei hystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Yn ôl Junts per Catalunya, mae’r Sosialwyr ac Esquerra yn cynllwynio i sicrhau y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal yn rhy gynnar i Puigdemont allu sefyll.

Mae disgwyl i Senedd Catalwnia bleidleisio ar y Bil Amnest heddiw (dydd Iau, Mawrth 14), ac mae disgwyl y bydd yn cael ei basio.

Yn ôl Carles Puigdemont, dydy e ddim wedi penderfynu eto a fydd e’n sefyll yn yr etholiad.