Mae Liz Saville Roberts yn galw am gyfarfod ag awdurdodau datgomisiynu niwclear i drafod dyfodol pont droed boblogaidd sy’n gyswllt cymunedol pwysig yn Nhrawsfynydd.

Mae pont droed Llyn Trawsfynydd – gafodd ei hagor bron i ganrif yn ôl pan gafodd y llyn ei ehangu i wasanaethu gorsaf ynni dŵr Maentwrog – yn boblogaidd ymhlith pysgotwyr, cerddwyr a phlant ysgol.

Cafodd ei hagor yn wreiddiol i helpu plant lleol i gerdded yn ddiogel i’r ysgol yn y pentref, ac i gael mynediad i’r capel.

Mae’r bont droed chwarter milltir o hyd, sy’n cael ei chynnal gan y Gwasanaeth Adfer Niwclear (NRS – Magnox gynt) a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), wedi bod ar gau i’r cyhoedd ers 2022, ar ôl i bryderon difrifol gael eu codi am ei diogelwch.

“Effaith sylweddol ar y gymuned” wrth gau’r bont

Wrth godi’r mater gyda’r ddwy asiantaeth niwclear, dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, fod cau’r bont droed yn cael effaith sylweddol ar y gymuned.

Mae’n torri ar lwybr cerdded diogel i blant ysgol lleol, meddai, ac yn atal ei defnydd fel ased hamdden poblogaidd.

“Ategaf alwadau gan drigolion, Cynghorwyr, a phlant ysgol Trawsfynydd yn eu dymuniad clir i’r bont droed ar draws pen deheuol Llyn Trawsfynydd gael ei thrwsio a’i gwneud ar gael i’r cyhoedd ei defnyddio unwaith eto,” meddai.

“Mae pentref Trawsfynydd yn gryf o’r farn fod cau’r bont yn cael effaith andwyol.

“Mae plant Ysgol Bro Hedd Wyn, wedi ychwanegu eu lleisiau at alwadau iddi gael ei hailagor.

“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i rai plant gerdded i’r ysgol ar hyd darn o gefnffordd brysur yr A470.

“Roedd y bont droed gynt yn rhan o’r daith gylchol wyth milltir o amgylch Llyn Trawsfynydd, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth gan gerddwyr a physgotwyr.

“Roedd y bont o fantais ddwbl – yn osgoi llawer o’r gefnffordd a dod â cherddwyr i ganol y pentref.

“Rwyf wedi ei defnyddio fy hun, gan fod hon yn weithgaredd deuluol boblogaidd.

“Mae’n hawdd dod o hyd i luniau o’r bont ar-lein gan fod pobol leol ac ymwelwyr fel ei gilydd wedi ymhyfrydu yn y profiad o gerdded ar draws y llyn.

“Byddwn yn cynnig bod colli’r llwybr troed i’r gronfa ddŵr yn golygu bod angen ailosod y bont fel mater o barchu’r gydnabyddiaeth wreiddiol o rwymedigaeth i gynnal hawliau tramwy.

“Yn ogystal, mae rhwymedigaethau economaidd-gymdeithasol y ddwy asiantaeth niwclear yn datgan y ‘dylai gweithgareddau datgomisiynu fod o fudd i gymunedau lleol a bod yn rhaid iddo ddarparu etifeddiaeth gadarnhaol unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

“Byddai methu â dychwelyd y bont droed i ddefnydd cyhoeddus yn gadael gwaddol negyddol i gymuned Trawsfynydd o ran mynediad, yr economi leol, ac ystyriaethau iechyd a lles.

“Byddwn felly’n croesawu’r cyfle i gwrdd â’r NRS a’r NDA i drafod sut y gellir dod o hyd i ddigon o arian cyhoeddus ar gyfer atgyweiriadau rwan i ddathlu canmlwyddiant y bont droed, a sut i sicrhau ei bod yn cael ei chynnal yn y dyfodol.”

Cau pont droed Llyn Trawsfynydd ers tua blwyddyn a hanner “yn ergyd”

Cadi Dafydd

“Dw i a’r plant yn cerdded dipyn, ond dydyn ni ddim yn cerdded gymaint achos mae o’n golygu mynd â thri phlentyn ifanc a’r cŵn ar ochr ffordd fawr”