Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru i “wireddu ei rhethreg”, wrth i’r mudiad alw o’r newydd am Ddeddf Eiddo.

Daw hyn ar ôl i Julie James, sydd â chyfrifoldeb dros dai yn Llywodraeth Cymru, ddweud nad yw farchnad dai’r Deyrnas Unedig yn gweithio ar hyn o bryd a bod trin eiddo fel buddsoddiad yn “wallgof”.

Yn sgil ei sylwadau, mae’r Gymdeithas yn galw arni i bwyso am Ddeddf Eiddo newydd.

Yn ei datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth (Mawrth 12) ar ail dai a fforddiadwyedd, cyfeiriodd Julie James at effaith y farchnad dai agored yn ei phentref ei hun, gan rybuddio na fydd ei phlant yn gallu fforddio byw yno ac y bydd yn fuan iawn yn troi yn “ghost town“.

“Mae hyn yn ymwneud â gweithredu am yn ôl ar gymuned gynaliadwy sydd wedi’i gyrru i ffwrdd gan farchnad fuddsoddi ddilyffethair mewn eiddo, oherwydd bod gan y Deyrnas Unedig farchnad eiddo gamweithredol; rydym yn ystyried yn cartrefi’n fuddsoddiad, sy’n wallgof, wir,” meddai.

“Ac mae’n gyrru set o ymddygiad nad yw’n ffafriol i economïau cynaliadwy.”

Dywed hefyd fod pob awdurdod lleol ond dau wedi cyflwyno, neu am gyflwyno premiymau treth gyngor ar ail dai, llety gwyliau neu dai gweigion, a bod cynlluniau sawl awdurdod cynllunio i gyflwyno polisi Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn “torri tir newydd”.

Rhethreg

“Mae’n amlwg o rethreg y Gweinidog ei bod yn deall gwraidd yr argyfwng tai sy’n gwynebu ein cymunedau, sef marchnad dai sydd heb ei reoleiddio,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

“Mae ganddi hefyd brofiad uniongyrchol o’i effeithiau niweidiol.

“Y ffordd o ddatrys hyn a sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel cartrefi a bod pobol yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau yw trawsnewid y farchnad tai trwy ddeddfwriaeth – Deddf Eiddo.

“Nid oes rhaid i Gymru ddilyn yr un trywydd â gweddill y Deyrnas Unedig, sydd yn amlwg ddim yn gweithio.

“Dyma pam rydym yn galw ar y Gweinidog, neu ei holynydd, i wireddu ei rhethreg a chyflwyno Deddf Eiddo fyddai’n mynd at wraidd yr argyfwng tai y mae hi wedi ei hadnabod.”

Rali

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4.

Bydd gwahoddiad i bawb sy’n bresennol i lofnodi datganiad “Ddeddf Eiddo – Dim Llai”.

“Mae’r Llywodraeth yn gweld ac yn deall y broblem, ond er mwyn sicrhau gweithredu galwn ar bobl o bob rhan o Gymru i ddod i Flaenau Ffestiniog i godi eu llais dros ein cymunedau a galw am ddim llai na Deddf Eiddo,” meddai Jeff Smith.