Mae sylwadau bod Cymru yng ngafael “ffasgiaeth ieithyddol” yn “honiad hurt”, yn ôl Carmen Smith, sydd ar fin ymuno â Thŷ’r Arglwyddi.

Daw ei sylwadau wedi i’r Arglwydd Moylan, sy’n aelod o’r Blaid Geidwadol, wneud y sylwadau yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe (dydd Iau, Mawrth 14).

Wrth siarad yn ystod dadl yn San Steffan ar ddiogelu’r Undeb, ddywedodd yr Arglwydd Moylan fod iaith yn “bwnc sensitif, ond ni ddylem fod yn rhy sensitif i’w drafod”.

“Pan fyddaf yn edrych ar Gymru ac yn gweld y ffasgiaeth ieithyddol, bron, sy’n bodoli mewn rhannau ohoni, rwy’n bryderus iawn y byddwn yn cael ein hunain, ar ryw achlysur yn y dyfodol, mewn sefyllfa ddigon tebyg i’r Alban yn 2014, pan sylweddolom, hanner ffordd drwy ymgyrch y refferendwm [annibyniaeth], y gallai undebaeth golli’r refferendwm,” meddai.

“Dw i ddim eisiau gweld rhywbeth o’r fath yn digwydd yng Nghymru.”

‘Hurt’

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywed Carmen Smith, fydd yn cychwyn fel Aelod Plaid Cymru o Dŷ’r Arglwyddi yr wythnos nesaf (Mawrth 21), fod ei honiadau’n “hurt.”

“Mae Arglwydd Torïaidd wedi gwneud yr honiad hurt fod Cymru yng ngafael “ffasgiaeth ieithyddol,” meddai mewn neges ar X [Twitter gynt].

“Nid yn unig mae hyn yn anghywir, ond mae’n hynod ryfedd!

“Rwy’n barod i wrthod yr hen farn am Gymru a’r Gymraeg pan ymunaf â’r Arglwyddi wythnos nesaf.”

‘Ymrwymo i gefnogi a hybu’r Gymraeg’

Roedd gan aelodau eraill o Dŷ’r Arglwyddi ymateb cryf i sylwadau’r Arglwydd Moylan hefyd.

“Rydw i wir yn gwrthwynebu’r term ffasgiaeth iaith,” meddai’r Farwnes Humphreys, dirprwy arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae pobol yn methu â deall bod Cymru yn genedl ddwyieithog ac mae gan bobol yr hawl i ddefnyddio eu hiaith gyntaf, pa un bynnag yw hynny, neu’r ddwy iaith os ydyn nhw eisiau.”

Fodd bynnag, dywedodd yr Arglwydd Cameron o Lochiel, Arglwydd Torïaidd o’r Alban, ei fod eisiau ei gwneud yn glir fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi’r strategaeth Cymraeg 2050.

“Mae’r Gymraeg wedi’i datganoli ond mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gefnogi hybu a defnyddio’r Gymraeg yng Nghymru,” meddai.

Aeth yn ei flaen i ddweud bod “ieithoedd yn perthyn i bawb”.

Dywedodd y Farwnes Chapman o Darlington, ei bod hi “wedi tristáu” wrth glywed sylwadau’r Arglwydd Moylan.

“Byddwn yn ei wahodd yn dyner a chyda llawer o barch i ystyried ei ddefnydd o iaith,” meddai.

‘Ffasgiaeth ieithyddol, wir?!’

Mae cangen Merthyr Tudful Yes Cymru wedi ymateb yn chwyrn hefyd, gan ofyn, “Ffasgiaeth ieithyddol, wir?!”

Mewn neges ar X (Twitter gynt), maen nhw’n dweud bod y sylwadau’n gwneud mwy o niwed nag o ddaioni i ddyfodol yr Undeb.