Mae’r Athro Gwenno Ffrancon wedi’i phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd hi’n parhau’n Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi yn ogystal, gan chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod y Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth wedi’u gwreiddio ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol.

Bydd hyn yn cynnwys gweithredu a gwreiddio’r weledigaeth strategol ar gyfer agenda’r Gymraeg yn Abertawe, gan gyfoethogi profiad myfyrwyr drwy hwyluso mynediad at gyfleoedd dysgu ac addysgu’r Gymraeg, ysgogi ymchwil a mentergarwch Cymraeg, a chefnogi’r Gymraeg a Chymreictod yn y brifysgol.

Bywyd a gyrfa

Daw’r Athro Gwenno Ffrancon o Flaenplwyf ger Aberystwyth, a graddiodd o brifysgol y dref cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn ddarlithydd y Cyfryngau yn 2005.

Cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi yn 2010.

Mae hi a’i theulu bellach yn byw yng Nghwm Tawe, lle mae hi’n Gynghorydd Tref ym Mhontardawe.

“Rwy’n hynod falch o gael y cyfle hwn i arwain ar agenda’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a chael sicrhau y bydd y sefydliad yn parhau i adeiladu ar ddatblygiadau’r blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Mae’r rheini wedi arwain at gynnydd mewn niferoedd myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg gyda ni, at gynnydd mewn nifer dysgwyr Cymraeg yn ein cymunedau lleol a phartneriaethau cadarn rhwng y Brifysgol a nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n hyrwyddo’r Gymraeg.

“Mae gwaith pellach i’w wneud, wrth reswm, a thrwy gydweithio’n effeithiol ledled y sefydliad, fe fyddwn yn anelu at sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ym mhob agwedd ar ein gwaith.

“Bydd cyfle i bob staff a myfyriwr i ddod i gyswllt â’r iaith a’i diwylliant ac elwa ar hynny.

“Er bod heriau sylweddol yn wynebu addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt, mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i’r Gymraeg yn gadarn.”