Ar benwythnos ola’r Chwe Gwlad, mae’r meddwl wedi troi at bedair blynedd yn ôl. Nos Wener, Mawrth 13, 2020 oedd hi, a minnau’n mwynhau cynhyrchiad byrlymus o ddrama Dafydd James, Tylwyth. 400 ohonom wedi gwasgu i Theatr y Sherman wrth i gymeriadau cofiadwy fel Aneurin, Rhys, Gareth a Dada wneud inni chwerthin a chnoi cil. Ciwio fel sardîns yn y bar bach wedyn i drafod y sioe a chofleidio hen ffrindiau. Roedden ni newydd weld chwip o gynhyrchiad Cymraeg a phopeth yn dda.

Roedd cyfaill arall wedi tynnu’n ôl ar y funud olaf achos ofnau am ryw feirws newydd. Dros ben llestri, meddyliais, fel penderfyniad y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething a’r WRU i ohirio gornest Cymru v Alban 24 awr cyn y gic gyntaf mewn stadiwm awyr agored tra’r oedd gig anferthol y Stereophonics yn dal ymlaen yn arena dan do y CIA.

25 achos o’r coronafeirws oedd yng Nghymru ar y pryd. Piciais i Lidl Llanisien a’r silffoedd yn fwy bylchog na cheg hen drempyn. Dim blawd, papur tŷ bach, pasta na thomatos tun. Un neu ddau mygydog yn y ciw. Yn ein swyddfa ganol y ddinas, roedd y rheolwyr wedi ffeirio’r llieiniau sychu dwylo yn y toiledau cymunol am dywelion papur tafladwy. Gwnaeth ambell un gais i weithio adra. A daeth y dosbarth canol Cymraeg ‘nôl o wyliau sgïo yn yr Eidal wrth i’r newyddion teledu ddangos nyrsys dagreuol ym Milan mewn lifrai PPE a siecbwyntiau’r heddlu ar hyd a lled rhanbarth Lombardia.

Roedd fy chwaer am i mi godi pac a dychwelyd i’r gogledd. “Gorymateb, siawns?” meddwn, ar ôl dychwelyd yn ofer o Aldi am bapur tŷ bach. Ond am 8.30 nos Lun, Mawrth 23, roedd newsflash syfrdanol gan Boris Johnson oedd wedi hanner cribo’i wallt, yn fyw o’i barlwr ffrynt â chlamp o Jac yr Undeb. Cafodd ei neges “Arhoswch adref!” ei hategu gan Mark Drakeford am 9 o’r gloch, o flaen llechfaen crwn â logo Llywodraeth Cymru.

“… Nawr mae’r rhain yn newidiadau mawr iawn i ni i gyd. Rydyn ni’n eu gwneud nhw oherwydd y cyflymder y mae’r feirws yn parhau i ledaenu. Plîs helpwch ni i’ch gwarchod chi ac achub bywydau. Gallwn wneud hyn gyda’n gilydd.”

Byddai ei arddull dow-dow yn gysur i lawer yn y misoedd i ddod, o gymharu ag arweinydd siang-di-fang yn awyrgylch parti Downing Street. Erbyn hyn, roedd 335 wedi marw o’r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig, 16 ohonyn nhw yng Nghymru

Ar ôl sadio’n hun, a’r ffôn bach yn bipian un neges “tyrd adra!” ar ôl y llall, dyma bacio fel fflamiau. Taflais ddillad a llyfrau a geriach gwaith i bŵt y Mazda, deud ta-ta o bell wrth y cymydog oedrannus, a chloi’r fflat tan y Pasg fan bellaf. Neu dyna feddyliais i ar y pryd.

Roedd yr A470 yn ddystopaidd o dawel y noson honno. Y byd yn ddu-bitsh ac eithrio smotyn fferm fan hyn, neon garej betrol wag fan draw. Dim siawns am stop goffi arferol. Bob tro y gwelwn i olau car, roeddwn i’n dychmygu Heddlu Dyfed-Powys yn fy ngorchymyn i droi’n ôl wap. Y signal radio’n mynd a dod, a’r bwletin yn cyhoeddi bod trefnwyr y Royal Welsh eisoes wedi canslo sioe’r haf.

Bedair awr yn ddiweddarach, roeddwn i adre. Fferrais yn fy sedd. Beth petawn i wedi cludo Covid-19 o’r ddinas gan beryglu ’nheulu? Yr un paranoia fyddai’n fy mhlagio dros y misoedd a’r flwyddyn nesaf, boed wrth bicied i’r Co-op ar ran mam, neu’n gafael mewn gât mochyn ar lwybr cyhoeddus heb botel hylif diheintio dwylo yn fy mhoced.

Mi gawson ni’r gwanwyn brafiaf ers cyn cof, a daeth haul ar fryn, sawl e-steddfod a brechlyn maes o law. Ond nid cyn i lawer aberthu cymaint ac eraill ddioddef profedigaeth lem. Erbyn i ymchwiliad y Deyrnas Unedig i’r pandemig gyrraedd Caerdydd, roedd 12,532 o farwolaethau cysylltiedig â Covid-19 wedi’u cofrestru yng Nghymru rhwng mis Mawrth 2020 a dechrau Chwefror 2024.

Gobeithio welwn ni fyth mo’i debyg eto.