Ddeng mlynedd yn ôl i’r dydd Iau aeth heibio (Mawrth 14), bu farw Anthony Neil Wedgewood ‘Tony’ Benn (1925-2014). Hanai o deulu wrthododd adael yr hen Annibynwyr i ymuno â’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig newydd yn saithdegau’r hen ganrif. Roedd Benn yn un o’r ychydig wleidyddion gafodd hyfforddiant diwinyddol. Bu wrth draed Reinhold Niebuhr (1892-1971) yn Union Seminary, Efrog Newydd am gyfnod.

Ym mis Mai 1976, traethodd Benn araith o bulpud eglwys Burford, Swydd Rydychen. Testun ei sylw oedd Ysbryd y Gwastatwyr – The Leveller Spirit.

Pwy oedd y Gwastatwyr? Plaid wleidyddol a chrefyddol yn Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg oedd y Levellers. Roedden nhw’n sefyll yn erbyn brenhiniaeth, ac o blaid rhyddid crefyddol llwyr, a hawl pleidleisio. Eu pennaf arweinydd oedd John Lilburn (1614-1657). Yn The Case of the Army Truly Stated (1647), anogai Lilburn’i gwladgarwyr i ddileu’r Senedd a sefydlu un gwir democrataidd. Trodd Oliver Cromwell (1599-1658) yn erbyn y Gwastatwyr, a hynny’n llym a thrylwyr. Cydiodd hanes mewn un digwyddiad, a’i godi’n ‘gofeb’ i’r erlid mawr a fu: ar Fai 17, 1649, cafodd Private Church, Corporal Perkins a Cornet Thompson eu lladd ym mynwent Burford gan filwyr Cromwell.

327 o flynyddoedd wedi’u lladd, barnai Benn fod gan y Gwastatwyr neges i bobol 1976. Er i Benn draddodi araith y diwrnod hwnnw, awgrymaf nad ‘araith’ ond pregeth oedd ganddo mewn gwirionedd. Pregeth y gallai Amos fod yn falch o’i thraddodi. Yn wahanol i’r pregethwr traddodiadol, y diwrnod hwnnw, roedd gan Benn ddeg pen!

Heddiw, beth am gymryd munud neu ddwy i ystyried pennau’r ‘bregeth’ hon, a phenderfynu os cyfoes a pherthnasol y neges?

Y Gwastatwyr

1. Bydden nhw’n siŵr o herio grym yr arianwyr mawr.

2. Bydden nhw’n gwrthwynebu rym y Sefydliad Milwrol ledled byd.

3. Bydden nhw’n cefnogi democratiaeth ddiwydiannol.

4. Bydden nhw’n gweithredu, doed a ddelo, costied a gyst lle bo anghyfiawnder.

5. Fydden nhw ddim yn rhoi eu bendith i gyfryngau torfol sy’n gefn i’r Sefydliad.

6. Bydden nhw’n sefyll dros hawl senedd i gael gwared ar eu cynrychiolwyr seneddol pe na bai rheini yn cyflawni eu gwaith.

7. Bydden nhw’n pwysleisio cysegredigrwydd y ddaear a’i hadnoddau, a’r pwysigrwydd i iawn rannu eiddo a thrysorau’r byd.

8. Bydden nhw’n galw llywodraethwyr a gweision sifil i ‘roi cyfrif’ cyson am eu goruchwyliaeth.

9. Bydden nhw’n rhybuddio rhag disgwyl ymwared gwleidyddol gan y mawrion.

10. Bydden nhw’n hawlio rhyddid barn a rhyddid i’w thraethu.

Tybed a ydych chi, fel finnau, yn gweld bod angen “tywalltiad nerthol iawn” o Ysbryd y Gwastatwyr arnom ni’r Cymry yn 2024?