Dyma gyfres newydd lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi eu helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg.

Y tro yma, mae Sonya Hill o Lanbedr ger Harlech yn adolygu’r gyfres sebon Rownd a Rownd. Roedd hi wedi dechrau dysgu Cymraeg yn neuadd y pentref cyn cyfnod Covid, ond rŵan mae hi’n dysgu ar-lein gyda Popeth Cymraeg a Phrifysgol Bangor. Yn ystod y cyfnod clo, mi wnaeth hi wylio hen bocsets ar S4C Clic, dramâu ac operâu sebon fel Tipyn o Stad a Talcen Caled


Sonya, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?

Fy hoff raglen ar S4C ydy Rownd a Rownd.

Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?

Dw i’n mwynhau gwylio Rownd a Rownd achos mae’n opera sebon, felly mae llawer o wahanol straeon yn digwydd bob amser. Hefyd, maen nhw’n defnyddio cerddoriaeth Gymraeg gefndirol yn y rhaglen ac os dach chi’n gwylio gydag isdeitlau, gallwch chi weld geiriau’r gân, sy’n ddefnyddiol i fi pan dw i’n clywed nhw ar Radio Cymru.

Beth wyt ti’n feddwl o’r actorion?

Mae’r actorion yn dda iawn yn y rhaglen a dw i wedi gweld rhai ohonyn nhw mewn bywyd go iawn o gwmpas Gwynedd. Mae Prifysgol Bangor yn rhedeg ‘Clwb Gwylio’ lle dan i’n trafod be sydd wedi bod yn digwydd yn Rownd a Rownd ar Zoom ac mae rhai o’r actorion wedi ymuno â ni am sgwrs.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobol sy’n dysgu Cymraeg?

Mae Rownd a Rownd yn rhaglen dda i bobol sy’n dysgu Cymraeg achos mae’r iaith yn syml a dyna sut mae pobol yn siarad yn naturiol – dim byd rhy gymhleth. Mae’r isdeitlau Cymraeg yn arbennig o ddefnyddiol i ddysgwyr, gan eu bod yn fwy cywir na’r rhai Saesneg.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Glanrafon ydy enw ffug lle mae’r straeon yn digwydd ar Ynys Môn, felly mae’r rhan fwya’ o’r cymeriadau yn siarad iaith y gogledd ond mae yna ambell un sy’n siarad iaith y de.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Faswn i’n awgrymu i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg i wylio Rownd a Rownd. Dim ond ugain munud ddwywaith yr wythnos y mae’r rhaglen ar S4C. Mae’n helpu i ddod i arfer â pha mor gyflym mae pobol yn siarad yn y byd go iawn.

  • Rownd a Rownd, nos Fawrth a nos Iau am 8.25 ar S4C