Mae hi’n amser chwarae, a dw i hefo rhai o’r genod eraill yn y Tŷ Bach Twt, sef cornel y stafell ddosbarth. Mae yna grud hefo doli ynddo, ac mae yna sawl doli arall o amgylch y lle. Rydan ni’n dal y doliau yn dyner, wedi’u lapio mewn blancedi, ac yn smalio eu bwydo nhw hefo poteli llefrith, tra’n murmur a’u suo nhw i gysgu.
Dyma’r disgwyliad, y peth naturiol i ni ei wneud. Ond dw i’n teimlo braidd yn anfodlon. Mae hyn oll yn teimlo fel lot o waith, ac mae’n weithgaredd gyfyng, ailadroddus, ddiflas, ac felly ddim yn llawer o hwyl.
Rydan ni draw yn nhŷ un o ffrindiau fy mrawd – hogan sy’n cael gwersi ffidil gan yr un athrawes rywle ger y fynwent yn ardal Offa. Mae Non yn rhy hen i chwarae hefo doliau erbyn hyn, ac mae hi am roi ei holl gasgliad i mi; braf bod â brawd mawr poblogaidd weithiau!
Rydan ni’n mynd â phob dim adre ac, yn debyg iawn i’r Tŷ Bach Twt yn yr ysgol, mae fy myd doliau yn gorchuddio cornel gyfan o’m llofft. Mae gen i ddau ‘dŷ’ pump llawr yr un, sy’n llawn dodrefn – priodol ac improv. Mae yna ddau drelar ceffylau nawr, dau geffyl, dwy ddoli Sindy – un benfelen a’r llall yn brunette, fy Barbie i, a llwythi o deganau eraill sy’n ymweld â’r plasty!
Dw i’n treulio oriau maith yn chwarae yng nghornel fy llofft. Mae Barbie yn cael benthyg dillad Flower Fairies a dillad eraill wedi’u gweu gan Anti Brenda. Mae ei bywyd hi yn un pleserus, llawn antur a moethusrwydd – megis cael ffrindiau draw i ginio a gwylio Butterscotch (My Little Pony) yn cwblhau rownd o’i Gymkhana.
2024
Mae yna ffilm Barbie wedi’i chyhoeddi, hefo cast sy’n llawn sêr, ac mae yna buzz pinc o’i hamgylch. Dw i a’r gŵr yn setlo lawr i’w gwylio. O’r olygfa gyntaf, mae’r gŵr yn dweud ei bod yn ei atgoffa fe o’i hoff ffilm, 2001: A Space Odyssey.
Yna daw’r gerddoriaeth a, golygfa wrth olygfa, daw’n glir eu bod nhw’n gwneud parodi o’r ffilm wreiddiol.
Mae’r Australopithecus (hominini cynnar) yn crafu bywoliaeth, yn llwgu ac yn cael ei ladd gan anifeiliaid megis llewpardiaid. Yna, oherwydd y monolith, caiff epiffani ei bod yn bosib i’r asgwrn fod yn arf – i amddiffyn eu hunain a hefyd i ladd yr anifeiliaid o’i gwmpas er mwyn cael mwy o fwyd parod. Mae’n lluchio’r asgwrn yn yr awyr ac mae’n troi’n un o arfau’r dyfodol.
Mae’r ffilm Barbie yn dechrau drwy ddangos criw o enethod ifainc yn gwisgo dillad Dugan, ac yn chwarae’n wyldeg hefo doliau, gan gofio eu bod nhw’n fabanod. Yna, maen nhw’n gweld Barbie fonolithaidd ac yn cael epiffani, fel mae llais Helen Mirren yn esbonio, nad oes rhaid iddyn nhw chwarae bod yn famau ddim mwy, mi gân nhw fod beth bynnag maen nhw am fod.
Hahahaha! Mae’n rhaid dweud i ni chwerthin a synnu ar glyfrwch hyn oll. Sylweddolais am y tro cyntaf pam roeddwn wedi mwynhau chwarae hefo Barbie llawer iawn mwy na doliau’r Tŷ Bach Twt. A buon ni’n rhyfeddu pa mor briodol oedd hyn fel ffordd o ddechrau’r ffilm, ynghyd â’r elfen fwy personol at ein dant, gan fod gwaith fy ngŵr yn gysylltiedig â’r materion dan sylw yn 2001: A Space Odyssey.
A gyda’r heip am y ffilm yn gaddo mwy o glyfyrwch a negeseuon pwysig, ffeministaidd, roedd pethau’n argoeli’n dda!
Synfyfyrion ar Barbie y ffilm
Rhaid dweud y cawsom ein siomi am weddill y ffilm, oedd yn teimlo bach yn ddryslyd, amwys, ac fel ei bod wedi rhedeg allan o syniadau.
Porais y we i wneud bach o ymchwil i ymatebion eraill, ac mae’n debyg fod llawer iawn o bobol wedi bod wrthi yn crafu’u pennau beth yn union mae’r awdur a chyfarwyddwr, Greta Gerwig, yn ceisio’i ddweud wrthym.
Yr hyn sy’n ddiddorol yw ei bod hi’n debyg ei bod yn amwys i bawb o bersbectifau gwahanol. Er enghraifft, i mi, roedd monolog Gloria (America Ferrera) am ba mor anodd yw hi i fod yn fenyw yn teimlo’n chwithig, gan taw fy rhywedd yw’r nodwedd sydd wedi achosi’r lleiaf o heriau a straen i mi yn fy mywyd.
Es ati i ail-wylio’r ffilm. Cyrhaeddais y darn lle mae Ken (Ryan Gosling) yn gwylio fideo am y patriarchaeth ac mae Sylvester Stallone yn cael ei gyflwyno fel enghraifft o’i rywedd. Fa’ma eto, doedd y neges jyst ddim yn taro deuddeg, gan fy mod yn uniaethu llawer iawn gwell hefo Stallone, rhywun niwrowahanol, nag ydw i hefo’r rhan fwyaf o’r menywod sy’n actio y ffilm.
Fy nheimlad personol, cychwynnol yw fod y ffilm yn gorsymleiddio’r syniad o fenyweidd-dra, gan gynnwys Chwaeroliaeth a ffeministiaeth.
Ac yn gyffredinol, mae synfyfyrion eraill arni hyd yn hyn wedi denu sylwadau megis nad yw’n faniffesto ffeministaidd, ond bod hynny yn iawn; tra bod eraill yn dweud ei bod yn moesymgrymu i’r patriarchaeth.
Ar y llaw arall, wrth gwrs, mae’n debyg fod yna elfennau ynddi sydd mor esoterig fel eu bod nhw wedi mynd dros ein pennau, megis y jôc am ‘Proust Barbie’. Ac efallai, felly, fel Catcher in the Rye, bydd angen i mi dreulio tipyn mwy o amser hefo’r deunydd, gan ddarllen amdani a synfyfyrio, ond yn y foment hon, dw i ddim wedi fy argyhoeddi.
Ymateb yr Academi
Difyr oedd gwylio’r ymateb yn yr Oscars i Barbie. Cafodd ei henwebu am wyth Oscar, gan gynnwys Best Picture, ond ennill dim ond un wobr – y ‘gân orau’ (buddugoliaeth haeddiannol iawn i Billie Eilish, yn fy marn i).
Oedd, mi oedd yn sefyll ochr yn ochr â’r ffilm epig Oppenheimer. Ond, yn wir, dim ond un Oscar wnaeth 2001: A Space Odyssey ei hennill, a hynny am Special Effects; yn ogystal, dyma’r unig Oscar i Kubrick ei ennill mewn gyrfa o hanner canrif! Ond does dim amheuaeth am effaith a phwysigrwydd ei waith arloesol.
Felly, mae Barbie braidd yn esoterig, ac fel y ddol wreiddiol, mae hi’n ddiffygiol ac yn ffaeledig. Ond, erbyn meddwl, dw i’n eithaf licio hynny, gan ei bod hi’n well adlewyrchiad o’i chynulleidfa darged; yn sicr, medraf uniaethu â hi’n well na rhywbeth sydd yn rhy glyfar a smug!
Ac, er na chafodd y gydnabyddiaeth a chlod disgwyliedig gan y sefydliad, mae hi’n cyfrannu rhywbeth unigryw at wead ein cymdeithas. Mae hi wedi ysgogi synfyfyrion a thrafodaethau – a dyna’r oll y gall unrhyw waith creadigol obeithio ei wneud, ynte?