Fe wnaeth dros 70,000 o blant a phobol ifanc gystadlu yn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yr Urdd eleni.

Roedd y nifer uchaf o gystadleuwyr yn ardal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni ym Maldwyn.

Mae disgwyl i dros 15,000 o gystadleuwyr gymryd rhan yn yr Eisteddfod ym Meifod rhwng Mai 27 a Mehefin 1.

Bydd teuluoedd incwm is yn medru hawlio tocynnau am ddim i’r Maes unwaith eto, a byddan nhw’n mynd ar werth ar Ebrill 8.

Cefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru sydd wedi caniatáu i’r Urdd roi mynediad am ddim i deuluoedd ar incwm is.

“Croesawyd 9,000 o unigolion o deuluoedd incwm is i’r ŵyl llynedd diolch i’r cynllun yma ac edrychwn ymlaen at gynnig Eisteddfod i Bawb unwaith eto eleni,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae’r argyfwng costau byw yn rhoi straen mawr ar deuluoedd, ac rydym eisiau sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli allan ar brofiadau drwy’r Urdd.

“Fel Mudiad rydym yn cynnig Aelodaeth £1 yr Urdd a mynediad am ddim i Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth i deuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol.”

‘Gwych’

Fe wnaeth mwy o gystadleuwyr nag erioed gystadlu yn ardal Maldwyn.

Ar ben y 70,511 fu’n cystadlu ledled wlad, bu 1,664 o bobol yn stiwardio, 1,040 yn cyfeilio a 832 yn beirniadu.

“Mae’n wych clywed fod mwy o blant a phobol ifanc Maldwyn wedi cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth nag erioed o’r blaen, a mwy o gystadleuwyr eleni nag yn unrhyw ranbarth arall yng Nghymru at hynny,” meddai Bedwyr Fychan, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.

“Pa well ffordd o brofi cyffro a brwdfrydedd ein hieuenctid i fod yn rhan o’r ŵyl fydd ar eu stepen drws?”