Mae cynllun sy’n datblygu comediwyr newydd wedi enwi’r saith artist fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen.

Bydd eu hanner nhw’n gweithio’n bennaf drwy Gymraeg, a’r hanner arall yn bennaf drwy Saesneg.

Prosiect rhwng S4C, Channel 4 a chwmni cynhyrchu Little Wander, trefnwyr Gŵyl Gomedi Machynlleth, er mwyn chwilio am dalent newydd yng Nghymru a’i ddatblygu ydy’r Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi.

Y tri fydd yn gweithio yn Gymraeg yw Caryl Burke, Iestyn Jones a Laurie Watts.

Byddan nhw’n cael eu paru â mentoriaid i weithio ar ddarnau comedi i’w dangos i gomisiynwyr Channel 4 ac S4C yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth eleni, gyda’r bwriad o ddatblygu’r darnau’n brosiectau teledu.

Yr artistiaid ar gyfer ochr S4C

Un o Borthmadog ydy Caryl Burke, ac mae hi’n gweithio fel cynhyrchydd cynorthwyol gyda Cwmni Da.

Mae hi wedi bod yn perfformio stand-yp ers dwy flynedd ledled Cymru, Llundain a gogledd-orllewin Cymru.

Mae Iestyn Jones wedi bod yn “potsian” â chomedi ers ychydig o flynyddoedd, meddai, ac wrth ei fodd yn ysgrifennu a gwneud i eraill chwerthin.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfoethogi’r sgiliau hyn a phrofi rhywbeth newydd gyda Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi Little Wander,” meddai.

Mae Laurie Watts yn ddigrifwr ifanc dwyieithog sy’n byw yng Nghaerdydd, ac maen nhw’n ymdrin â themâu amrywiol o fod yn Drawsryweddol, yn ogystal â Chymreictod a theorïau’n ymwneud â’r Dywysoges Diana.

“Rwy’n llawn cyffro am y cyfle i fod yn rhan o’r diwydiant comedi, i ddysgu gan fy mentor a thalentau Cymreig eraill sy’n datblygu, ac rwy wrth fy modd yn cael fy nghyfle cyntaf i berfformio mewn gŵyl gomedi,” medden nhw.

“Mae S4C yn falch o gefnogi’r cyfle hwn i ddatblygu doniau comedi yma yng Nghymru,” meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C.

“Bydd yn sicrhau y gallwn gefnogi doniau newydd, meithrin eu syniadau a rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio ar lwyfan amlwg yn y diwydiant.

“Mae comedi Gymraeg wedi dod yn bell dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llwyfan ar-lein-yn-gyntaf S4C, sef Hansh, ar flaen y gad o ran darparu cyfleoedd ar gyfer talent newydd.”

‘Talent anhygoel o Gymru’

Y comediwyr fydd yn ymwneud â’r ochr Channel 4 ydy Edward Easton, sydd wedi ysgrifennu i Radio 4 a Radio Wales; Leroy Brito, sydd wedi rhannu llwyfan â Mo Gilligan, Rhod Gilbert a Guz Khan; a Mari a Lowri Izzard, efeilliaid o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n gweithio ar y cyd.

“Ar ôl bod yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth dros y deuddeg mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld talent gomedi anhygoel o Gymru yn cael ei meithrin, ei chefnogi ac yn ffynnu – yn fwy felly nawr nag erioed,” meddai Charlie Perkins, Pennaeth Comedi Channel 4.

“Rydym yn ddiolchgar i S4C am eu partneriaeth greadigol ac ni allwn aros i weld beth y bydd Little Wander – sy’n gwmni gwych – yn ei ddatblygu.”

Ychwanega Henry Widdicombe, Cyfarwyddwr cwmni Little Wander, eu bod nhw wrth eu boddau’n tynnu sylw pellach at y comedi sy’n dod allan o Gymru.

“Mae hwn yn gyfle mor wych i ddoniau Cymraeg a Chymreig ac ni allwn aros i weithio gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus.”

S4C, Channel 4 a Little Wander yn cydweithio ar Raglen Datblygu Artistiaid Comedi

Nod y cynllun yw chwilio am dalentau newydd yng Nghymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’u datblygu